Dweud eich dweud am bwerau newydd i ddelio â'r sbwriel ar ochr y ffordd

Have your say on new powers to tackle roadside rubbish

  • Gallai perchnogion cerbydau gael eu dirwyo am sbwriel sy’n cael ei daflu o’u ceir 
  • Mae sbwriel ar ochr y ffordd yn bla ar gymunedau, yn niweidio bywyd gwyllt ac mae'n anodd ei reoli o dan y gyfraith bresennol
  • Rydyn ni'n gofyn ichi am eich barn ac am dystiolaeth fel rhan o ymgynghoriad ehangach ar gynaliadwyedd amgylcheddol fydd ar agor tan 14 Hydref 

Gallai perchennog cerbyd gael ei ddirwyo am unrhyw sbwriel a deflir o'i gar, hyd yn oed os mai rhywun arall oedd yn gyrru ar y pryd, o dan gynllun sy'n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru. 

Mae sbwriel ar ochr y ffordd yn bla ar gymunedau ac yn niweidio bywyd gwyllt. I awdurdodau lleol, mae'n faich ariannol sylweddol ac yn golygu gwario arian allai gael ei wario ar wasanaethau hanfodol, fel addysg, tai a llyfrgelloedd. O dan y gyfraith fel y mae, er mwyn gallu cymryd camau cyfreithiol, rhaid gallu adnabod y person cyfrifol. Ond mae awdurdodau lleol yn dweud bod hynny'n anodd. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn a thystiolaeth ynghylch a ddylai Cymru gosbi'r person y mae'r cerbyd wedi'i gofrestru iddo, p'un a oedd yn gyfrifol neu beidio neu hyd yn oed yn y car ar y pryd. Mae pwerau tebyg eisoes yn bodoli yn Lloegr ac mae disgwyl iddynt gael eu cyflwyno yn yr Alban. 

Nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud eto, a gwahoddir pobl yng Nghymru i ddweud eu dweud cyn y dyddiad cau ar 14 Hydref. 

Mae'r cwestiwn yn rhan o ymgynghoriad mwy ar gynaliadwyedd amgylcheddol, sydd hefyd yn gofyn am godi'r gosb sefydlog uchaf am dipio anghyfreithlon i £5,000. 

Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: 

"Does neb yn hoffi sbwriel. Mae sbwriel ar ochr y ffordd yn anharddu'r ardal, yn effeithio ar ein heconomïau a'n cymunedau lleol, ac yn peryglu'r amgylchedd a bywyd gwyllt.  

"Mae'n aml yn amhosibl profi pwy mewn car sy'n taflu'r sbwriel, felly mae dwylo cynghorau wedi'u clymu hyd yn oed pan maen nhw'n gwybod ei fod wedi digwydd.  

"Byddwn yn annog pawb i fynegi eu barn a'n helpu i lanhau ein ffyrdd."