Gwaith yn dechrau ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur cyntaf Cymru

Work begins on Wales’s first Climate and Nature Action Plan

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau gwaith ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur cyntaf Cymru, sy'n mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli natur gyda'i gilydd yn hytrach nag fel materion ar wahân.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu Bwrdd Hinsawdd a Natur, dan gadeiryddiaeth Gweinidog y Cabinet, Llyr Gruffydd, i helpu i lunio'r cynllun a sicirhau cyflawniad.
  • Mae'r cynllun yn gosod targed o sero net erbyn 2040 ac adferiad natur sylweddol erbyn 2050.

Mae gwaith wedi dechrau ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur cyntaf Cymru, a fydd yn nodi rhaglen weithredu traws-lywodraethol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur fel un her gysylltiedig.

Bydd Bwrdd Hinsawdd a Natur newydd yn cael ei sefydlu i helpu i lunio'r Cynllun, gan ddod ag arbenigedd allanol at ei gilydd i ddarparu her adeiladol, cefnogi cydlynu a helpu i ddwyn i gyfrif dros gyflawni.

Caiff y Bwrdd ei gadeirio gan Llyr Gruffydd, Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig, a bydd yn helpu i sicrhau bod y cynllun yn adlewyrchu profiadau a blaenoriaethau pobl a chymunedau ledled Cymru.

Bydd y cynllun yn sefydlu rhaglen weithredu traws-lywodraethol i gefnogi datblygu cynaliadwy, cryfhau gwytnwch hinsawdd a natur, gwella cynaliadwyedd amgylcheddol, cefnogi pontio cyfiawn, a siartio llwybr ymarferol tuag at sero net erbyn 2040 ac adferiad natur sylweddol erbyn 2050.

Bydd yn helpu Cymru i ymateb i effeithiau y gall pobl eu gweld a'u teimlo eisoes, o lifogydd sy'n effeithio ar gartrefi a busnesau a thanau gwyllt diweddar sy'n niweidio tirweddau a chynefinoedd, i bwysau ar fwyd a ffermio, afonydd llygredig, bywyd gwyllt sy'n dirywio, hafau poethach, newid arfordirol, a risgiau cynyddol i iechyd, cymunedau ac economïau lleol.

Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: "Nid yw hyn yn ymwneud â thrin hinsawdd a natur fel problemau ar wahân - maen nhw'n broblemau cysylltiedig ac mae angen i ni ymateb iddyn nhw mewn ffordd gysylltiedig.

"Wrth ddatblygu'r cynllun, byddwn yn dod â phobl, cymunedau, partneriaid a sefydliadau i'r broses o lunio atebion, gan dynnu ar eu profiadau yn ogystal â'r dystiolaeth.

"Gyda'n gilydd, byddwn yn chwilio am gyfleoedd i weithredu ar draws y llywodraeth a'r gymdeithas sy'n mynd i'r afael ag achosion yr heriau hyn, nid eu symptomau yn unig.

"Mae hyn yn golygu diogelu ac adfer y systemau naturiol y mae Cymru'n dibynnu arnyn nhw, tra hefyd yn ein helpu i gyflawni ein hymrwymiadau ehangach i gymunedau iachach, lleoedd mwy gwydn, economi gryfach a thecach, gwytnwch gwledig, aer a dŵr glanach, cartrefi cynhesach, sgiliau a swyddi gwyrdd, bwyd a ffermio cynaliadwy, a lleoedd gwell i fyw."