Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian
Statement from the Cabinet Minister for Local Government, Housing and Planning, Siân Gwenllian
Mae Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i'r digwyddiadau ynn Ngwaelod-y-garth.
"Mae'r digwyddiad wedi peri pryder ac mae ein meddyliau gyda'r trigolion a'r busnesau sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd yng Ngwaelod-y-garth.
"Rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa a chefnogi ein partneriaid fel rhan o'r ymateb amlasiantaeth, sydd nawr yn symud i gyfnod adferiad.
"Bydd yr awdurdodau perthnasol nawr yn ymchwilio i'r digwyddiad, i ddeall yn union beth ddigwyddodd, felly ni fyddai'n briodol i ni wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd."
DIWEDD