English icon English
Ambulance 1-2

Buddsoddi dros £34m mewn gwasanaethau ambiwlans dros fisoedd y gaeaf

More than £34m invested in ambulance services through the winter months

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi dros £34m o arian ychwanegol i gefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystod misoedd y gaeaf i ddod.

Mae’n cynnwys £11m i barhau â chymorth y lluoedd arfog ar gyfer gwasanaethau ambiwlans hyd ddiwedd mis Mawrth. Bydd nifer y personél yn cynyddu o 100 i 250 yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Bydd £15m yn ariannu cerbydau i gymryd lle cerbydau argyfwng 111 er mwyn gwella pa mor ddibynadwy ydyn nhw a faint ohonyn nhw sydd ar gael.

Bydd y fflyd newydd yn cynnwys 39 ambiwlans argyfwng yn lle’r rhai blaenorol, 12 ambiwlans argyfwng newydd a 23 cerbyd ymateb cyflym.

Bydd dros £8m ar gael i gefnogi gwasanaethau ambiwlans argyfwng, a gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio fel a ganlyn:

  1. £5m ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:
  • 36 clinigydd ambiwlans rheng flaen ychwanegol er mwyn gallu dyblu’r capasiti presennol i roi cymorth clinigol o ddesg a darparu cyngor dros y ffôn i gleifion 999
  • Capasiti ychwanegol i gefnogi’r ymateb i bwysau’r gaeaf, gan gynnwys gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys
  • Cymorth i gydlynu’r ymateb i bwysau yn y system gofal brys ac argyfwng
  • Depo Paratoi yn Singleton i gynyddu nifer y cerbydau ambiwlans sydd ar gael ym Mae Abertawe.

    2 .£2m ar gyfer gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys ac i recriwtio ymarferwyr iechyd meddwl i roi cymorth dros y ffôn i bobl â phroblemau iechyd meddwl.

    3. Arian pellach i gefnogi cleifion iechyd meddwl drwy gynllun cludiant peilot a gynhelir gan St John Cymru Wales.

Y gobaith yw y bydd y buddsoddiad yn atgyfnerthu gwasanaethau gofal argyfwng gan helpu pobl i gael y gofal a’r driniaeth angenrheidiol yn gynt. Daw hyn wedi i lefelau staffio ambiwlansys yng Nghymru gynyddu bron i 30% yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Mae’r arian hwn yn ategu £9.8m a gafodd ei glustnodi’n flaenorol i’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i helpu pobl i ddychwelyd i’w cymunedau lleol ar ôl bod yn yr ysbyty. Bydd hyn yn helpu i wella’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty a lleddfu’r pwysau ar welyau ysbyty.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Mae gwasanaethau a staff ambiwlans yng Nghymru o dan straen enfawr oherwydd effaith y pandemig a phwysau’r gaeaf.

“Rydyn ni’n benderfynol o gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd – a’i holl staff – ym mhob ffordd y gallwn ni. Mae buddsoddi yn y gwasanaeth ambiwlans yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau y gall pobl gael gofal argyfwng o ansawdd uchel pan fydd arnyn nhw ei angen fwyaf.

“Mae clinigwyr a staff ambiwlans wedi gweithio’n ddiflino drwy gydol y pandemig. Hoffwn ddiolch iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi’i wneud i ofalu am bobl.”

Dywedodd Jason Killens, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:

“Y gaeaf yw ein cyfnod prysuraf bob blwyddyn, ac ar ben hynny mae gennym y pandemig a lefelau digynsail o alw ac absenoldeb staff. Rhaid inni felly weithio ddwywaith mor galed i ddarparu gwasanaeth diogel i bobl Cymru.

“Mae’r ymddiriedolaeth a’i phartneriaid yn gweithio’n galed i ganfod datrysiadau hirdymor a chynaliadwy i faterion ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan, ond yn y cyfamser, rhaid inni edrych ar fesurau tymor byr i atgyfnerthu ein capasiti gymaint ag y gallwn ni.”

Dywedodd Benjamin Savage, prif swyddog gweithredu St John Ambulance Cymru:

“Rydyn ni’n falch o weld y bydd rhagor o arian ar gael i wasanaethau ambiwlans ledled Cymru cyn cyfnod heriol y gaeaf.

“Rydyn ni eisoes wedi gweld buddion arian Llywodraeth Cymru i’r cymunedau yr ydym yn eu cefnogi eleni, gan lansio ein gwasanaeth cludo ar gyfer iechyd meddwl. Mae’r gwasanaeth hwn wedi ein galluogi i ofalu am gannoedd o bobl a oedd angen ein cymorth.”

Nodiadau i olygyddion

Benefits of investing in more emergency services vehicles

  • Fewer major breakdowns while responding to patient calls or conveying patients to hospital
  • Better vehicle reliability leading to lower vehicle down-times for servicing and repairs
  • Fewer defects during operational shifts, increasing vehicle availability and thus supporting front line operations in making ambulance crews available to respond
  • A modern clinical interior and therefore better infection control
  • Better value for money through the procurement of more fuel-efficient vehicles that will reduce operating costs
  • Lower maintenance and repair costs
  • Reduced CO2 emissions through the procurement of Euro 6 compliant vehicles reducing adverse impacts on the environment and community
  • A better clinical environment for front line staff to operate from, being resourced with the latest clinical equipment to improve patient outcomes
  • Clean, well equipped and high quality vehicles capable of meeting the public’s expectations and maintaining a positive public image of the service

The vehicle replacement programme for 2022-23 consists of:

2022/2023 Vehicle Replacements

Service

Description

Qty

Emergency Operations

Emergency Ambulances (EA)

(12 new, 39 replacement)

51

Emergency Operations

Rapid Response Vehicles (RRV)

23

Non-Emergency Patient Transfer System (NEPTS)

Large (Stretcher)

16

Non-Emergency Patient Transfer System

Large (Double Wheelchair)

6

Non-Emergency Patient Transfer System

Small (Single Wheelchair)

15

Total:

 

111