English icon English
Deputy Minister Julie Morgan meeting care workers at Fields Care Homes in Newport-2

Buddsoddi £96m i roi taliad ychwanegol o £1,000 i ddegau o filoedd o staff gofal cymdeithasol

£96m investment to give tens of thousands of social care staff a £1,000 extra payment

Bydd degau o filoedd o staff gofal cymdeithasol a fydd yn gymwys i gael cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill yn cael taliad net ychwanegol o £1,000 wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn y sector.

Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan fuddsoddiad pellach o £96m i gefnogi staff, a hynny ar ben y buddsoddiad o £43m i gyflwyno cyflog byw gwirioneddol.

Gwneir y taliad ychwanegol i tua 53,000 o bobl, a hynny ar ganol yr argyfwng costau byw gwaethaf ers degawdau.

Mae’r Dirprwy Weinidog Julie Morgan wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac wedi cynnal cyfarfodydd wythnosol gyda’r sector drwy gydol y pandemig. Ddoe treuliodd brynhawn yn cyfarfod staff yng nghartref gofal The Fields yng Nghasnewydd.

Treuliodd amser yn cwrdd â staff ac yn siarad â phreswylwyr a oedd yn llawn canmoliaeth ar gyfer y gwaith amhrisiadwy y mae staff yn ei wneud yn y cartref. 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Cyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol yw un o’n prif flaenoriaethau ac rwy’n falch ein bod ni wedi gallu gwneud hyn yn ystod blwyddyn gyntaf ein llywodraeth.

“Ar adeg pan rydym yn wynebu argyfwng gostau byw, mae’r taliad ychwanegol hwn i weithwyr gofal a fydd yn cael y cyflog byw gwirioneddol yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi pobl ac annog mwy o bobl i ystyried swydd gwerth chweil ym maes gofal.

“Rwyf wedi gweld gyda fy llygaid fy hun y gwahaniaeth y gall gweithwyr gofal cymdeithasol ei wneud i fywydau pobl bob dydd, ac rwy’n gwybod faint y mae pobl yn eu gwerthfawrogi.

“Rydym eisiau gweld mwy o bobl yn derbyn swyddi parhaol ym maes gofal cymdeithasol ac yn dechrau ar yrfa gwerth chweil. Rydym yn gobeithio hefyd y bydd y rhai hynny sy’n ystyried gadael gofal cymdeithasol, neu sydd eisoes wedi gadael, yn aros."

Gwneir y buddsoddiad o £96m ar gyfer y taliad ychwanegol ar ben y buddsoddiad o £43.2m a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael y cyflog byw gwirioneddol yn 2022-23. Bydd tua 53,000 o weithwyr gofal cymdeithasol yn gymwys i gael y taliad ychwanegol.

Bydd y taliad ychwanegol, a fydd yn cael ei roi ar yr un adeg â chyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol, yn £1,498 cyn didyniadau treth ac yswiriant gwladol. Gall gweithwyr gofal sy’n talu treth incwm ar y gyflog sylfaenol ddisgwyl cael £1,000 ar ôl didyniadau.

Rydym yn disgwyl y bydd y taliad ychwanegol a’r cyflog byw gwirioneddol yn cael eu prosesu yng nghyflogau pobl rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, o ganlyniad i gymhlethdod y sector gofal a’r nifer fawr o weithwyr dan sylw. Bydd y taliad ychwanegol ar gael fel taliad sengl neu randaliadau misol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu ymgyrch recriwtio cenedlaethol ac yn cymryd camau i broffesiynoli’r sector a gwella’r cyfleoedd gyrfa. 

Nodiadau i olygyddion

Pic caption: Deputy Minister for Social Services Julie Morgan meeting with (from left) Home Manager Debbie Richards, care assistant Craig Burrows and senior carer Emma Corten at Fields Care Home in Newport

The additional payment is different to the £500 thank you payment for social care staff in 2020, which was available after the first wave of the pandemic and the £735 payment to health and social care staff to thank them for their commitment in 2021.

The additional payment will be available to social care staff who are eligible for the real living wage, and to some managers, as follows:

Role

Number

Adult Care Home Manager

1,346

Adult Care Home Worker

15,565

Domiciliary Care Manager

1009

Domiciliary Care Worker

25,000

Residential Child Care Manager

312

Residential Child Care Worker

3385

Personal Assistants

6370

Total

52,987

As part of the Co-operation Agreement with Plaid Cymru, the Welsh Government is committed to working towards parity of recognition and reward for health and care workers as part of its  shared ambition on the future of social care.