English icon English

Buddsoddi mewn cyfarpar microbioleg newydd a all ganfod bacteria mewn munudau yn lle oriau a lleihau’r siawns o sepsis

Investment in new microbiology equipment could identify bacteria in minutes instead of hours and reduce the chances of sepsis

 

Bydd dros £1.2m yn cael ei fuddsoddi mewn chwe pheiriant dadansoddi bacterol newydd a all ganfod bacteria o heintiau mewn munudau yn hytrach nag oriau.

Drwy sicrhau bod y bacteria sy’n achosi’r haint yn cael eu canfod yn gyflym, bydd cleifion yn cael y therapi gwrthfiotig cywir yn gynt, gan wella eu triniaeth a’u hadferiad.

Gall triniaeth amserol ac effeithiol hefyd atal heintiau rhag datblygu’n sepsis.

Mae hyn hefyd yn cyfrannu at y strategaeth iechyd y cyhoedd ehangach i leihau ymwrthedd gwrthficrobaidd drwy ladd y bacteria ac atal bacteria sydd ag ymwrthedd rhag ymddangos a lledaenu.

Bydd y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod modd prynu peiriannau dadansoddi newydd yn lle pedwar peiriant sydd yng Nghaerdydd, Abertawe a’r Rhyl ar hyn o bryd. Yn ogystal, bydd y capasiti yn cael ei ehangu ymhellach drwy brynu dau beiriant ychwanegol.

Mae’r dadansoddwyr Spectometreg Amser Ehedeg Màs ar sail Dadsugno-ïoneiddio drwy Laser â Chymorth Matricsau (MALDI-TOF MS) yn prosesu 150,000 o samplau y flwyddyn ar gyfartaledd ar gyfer gwasanaeth microbioleg Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae angen peiriannau newydd gan fod yr hen rai’n gofyn am lefel gynyddol o gymorth gan y gwneuthurwyr a gwaith cynnal a chadw ataliol.

Mae’r peiriannau’n hanfodol i ganfod heintiau bacterol a pha wrthfiotigau fyddai fwyaf effeithiol i’w trin. Gall gymryd rhwng 12 a 18 awr i’r peiriannau presennol roi canlyniadau, tra bydd y rhai newydd yn anelu at eu rhoi mewn 10 i 20 munud.

Byddan nhw hefyd yn helpu i reoli heintiau pathogenau sydd ag ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn argyfwng iechyd y cyhoedd byd-eang ar hyn o bryd ac yn un o’r prif flaenoriaethau iechyd y cyhoedd ar gyfer Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r dadansoddwyr MALDI-TOF wedi’u sefydlu fel rhan hanfodol o’r broses o ganfod bacteria.

Dywedodd Dr Robin Howe, Microbiolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Microbioleg: “Mae’r buddsoddiad yn y dechnoleg newydd hon i’w groesawu’n fawr. Mae’n hwb enfawr i’n gallu i ganfod heintiau bacterol yn gyflym, gan alluogi clinigwyr i ddarparu triniaeth briodol i gleifion mewn modd llawer mwy amserol.

“Bydd y dechnoleg newydd hon hefyd o gymorth i’n strategaeth i leihau ymwrthedd gwrthficrobaidd, gan fod canfod pathogenau yn gynt yn golygu bod modd cyflwyno mesurau rheoli haint effeithiol yn llawer cynharach, i atal bacteria sydd ag ymwrthedd rhag ymddangos.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: “Bydd y buddsoddiad hwn yn trawsnewid y gwasanaeth microbioleg ac yn ein galluogi i ganfod bacteria o heintiau mewn munudau yn lle oriau.

“Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar y gwaith o reoli heintiau yn effeithiol ac yn gwella gofal cleifion. Gallai rheoli heintiau yn well leihau derbyniadau i’r ysbyty drwy ymyriadau cynnar yn y gymuned, lleihau hyd arosiadau diolch i arbenigedd clinigol effeithiol a chyflymu llif cleifion ar draws ysbytai yng Nghymru.

“Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn argyfwng iechyd y cyhoedd byd-eang ar hyn o bryd ac rydym yn benderfynol o fuddsoddi yn y cyfarpar a’r seilwaith angenrheidiol i fynd i’r afael ag ef a rhoi’r gofal gorau posib’ i gleifion.”