English icon English
AIRFLO - 2-2

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn busnes ym Mhowys yn diogelu ac yn creu 65 o swyddi

Welsh Government investment in Powys-based business secures and creates 65 jobs

  • Llywodraeth Cymru’n neilltuo £566,000 o Gronfa Dyfodol yr Economi i Airflo Fishing Products Ltd.
  • Y cwmni o Aberhonddu yw prif gynhyrchydd y diwydiant o leiniau pysgota arbenigol di-PVC
  • Mae’r buddsoddiad yn diogelu 44 ac yn creu 21 o swyddi, gan baratoi’r ffordd ar gyfer allforio pedair gwaith yn fwy o gynnyrch i Ogledd America

Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £566,000 i helpu Airflo, cwmni cynhyrchu leiniau pysgota arbenigol, i dyfu a sicrhau llewyrch y ffatri yn Aberhonddu at y dyfodol, gan greu 21 a diogelu 44 o swyddi, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Airflo yw’r unig gwmni yn y byd sy’n cynhyrchu ystod o leiniau genweirio sy’n gyfan gwbl ddi-PVC. Y mae felly’n arloesydd blaenllaw yn y sector.

Yn eu ffatri yn Ystâd Ddiwydiannol Ffrwdgrech yn Aberhonddu sy’n eiddo i gwmni Mayfly Group o’r Unol Daleithiau, mae Airflo wedi tyfu’n llwyddiant allforio yng Nghymru. Mae’r archebion cyn dechrau’r tymor yn awgrymu bedair gwaith yn fwy o fusnes â Gogledd America. Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y cwmni nid yn unig yn cynyddu ei allforion i Ogledd America ond yn ei helpu hefyd i fentro i farchnadoedd newydd fel Japan, Seland Newydd a De Affrica.

Bydd buddsoddiad Cronfa Dyfodol yr Economi yn golygu y bydd Airflo’n gallu dod â chynnyrch newydd i’r farchnad. Bydd yr offer newydd yn cymryd lle’r hen gynnyrch gan gynyddu cynhyrchiant a sicrhau bod swyddi’n aros yng Nghymru a bod ymchwil a datblygu’n parhau yn Aberhonddu.  Mae’n dilyn buddsoddiad sylweddol o bron £2m gan y busnes yn ei offer yn Aberhonddu ers 2020.

Am ragor na 70 o flynyddoedd, mae’r rhan fwyaf o leiniau genweirio wedi’u gwneud o PVC (polyvinyl chloride), plastig sy’n naturiol o anystwyth. Mae leiniau PVC yn dechrau dadelfennu’n syth ar ôl eu cynhyrchu.  Gan nad oes ffordd ddiogel o ailgylchu PVC, mae hynny’n arwain at ollwng plastig yn yr amgylchedd, gan effeithio’n arbennig ar fiomas organeddau pridd a’u gallu i oroesi.

Mae’r prosiect yn gyson â’r ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i adeiladu economi sy’n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol. Mae’n cyd-fynd hefyd â nifer o amcanion Cynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Cefnogi busnesau i sbarduno ffyniant.
  • Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol a hyrwyddo gwaith teg.
  • Sbarduno twf cynaliadwy a milwrio yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

Wrth gyhoeddi’r dyfarniad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi’r buddsoddiad sylweddol hwn i gefnogi diwydiant arbenigol ym Mhowys.

“Mae Airflo yn gwmni unigryw sy’n cynhyrchu cynnyrch arloesol sydd â’r potensial ar gyfer ei werthu ledled y byd.  Bydd y prosiect hwn felly yn hwb i’r economi leol yn Aberhonddu, gan ddod â chyfleoedd gwaith o ansawdd a chyflogau cystadleuol iawn i ardal wledig. Yn ogystal â hynny, bydd yn arwain at ddatblygu cynnyrch newydd fydd yn helpu i ddiogelu’r amgylchedd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu’r amgylchedd ac mae’r buddsoddiad hwn yn cyd-fynd â’r amcan tymor hir o roi’r gorau fesul cam ar ddefnyddio cynnyrch untro diangen, yn enwedig plastig, a rhoi’r gorau’n llwyr i anfon plastig i safleoedd tirlenwi.

Wrth groesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru, dywedodd Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol Airflo, Sherrie Woolf:

"Rydym wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru’n helpu’n busnes i dyfu.  Mae gennym gyfleoedd anferth i gynyddu’n hallforion ac ar y funud, dydyn ni ddim yn gallu cwrdd â’r galw!

“Bydd y benthyciad hwn yn ein helpu i ychwanegu offer cynhyrchu sylweddol a chreu 21 o swyddi amser llawn newydd yn y cwmni. Mae’n wych bod Cymru’n agored i fusnes!”

Mae Contract Economaidd Llywodraeth Cymru’n rhoi blaenoriaeth i anghenion cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru gan ddatblygu yr un pryd economi lesiant wytnach a mwy ffyniannus.

Mae contract economaidd eisoes wedi’i lofnodi rhwng Airflo a Llywodraeth Cymru a bydd y buddsoddiad newydd hwn yn arwain at gontract newydd gwell cyn pen 12 mis ar ôl derbyn y cyllid.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

The Economy Futures Fund:

  • A streamlined finance package bringing together existing finance schemes into a consistent approach, simplifying the process for businesses and allowing Welsh Government to be flexible in how it uses the resources it has to meet business need, and deliver against the points highlighted in the Economic Contract and the Calls to Action.
  • The amount awarded to Airflo Fishing Products Ltd. is not a grant and is repayable to the Welsh Government.