Cabinet Minister for Education and Welsh Language cropped

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn hybu gofal drwy gyfrwng y Gymraeg

Welsh Government investment helps support care through the medium of Welsh

  • Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn arwain rhaglen Dysgu Cymraeg genedlaethol sy’n helpu staff iechyd a gofal i ddatblygu eu sgiliau a'u hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
  • Gall derbyn gofal yn Gymraeg helpu pobl i deimlo'n fwy cyfforddus, cael eu deall ac i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu gofal.
  • Mae cefnogaeth i fyfyrwyr a hyfforddeion yn helpu i dyfu gweithlu iechyd a gofal dwyieithog y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yng ngwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gefnogi cynlluniau ar gyfer gweithluoedd.

Mae'r cynlluniau’n darparu hyfforddiant a ariennir yn llawn i sectorau a chyflogwyr  fel y gall gweithwyr ddysgu Cymraeg a datblygu eu sgiliau Cymraeg. 

Fel rhan o'r cynlluniau, mae’r Ganolfan yn arwain rhaglen Dysgu Cymraeg ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n darparu pecyn dysgu a chefnogaeth cynhwysfawr i'r sector.

Mae’r Ganolfan hefyd yn darparu rhaglenni Dysgu Cymraeg i fyfyrwyr meddygol.

Mae dros 9,000 o staff iechyd a gofal eisoes wedi cymryd rhan yn hyfforddiant  y Ganolfan.  Drwy’r cynlluniau, mae staff yn datblygu'r hyder a'r sgiliau i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith. 

Heddiw yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae'r Ganolfan yn cyhoeddi partneriaeth newydd gyda Choleg Brenhinol y Bydwragedd, gan greu cyfleoedd i fydwragedd a gweithwyr mamolaeth ledled Cymru gryfhau eu sgiliau Cymraeg.

Dywedodd Julie Richards, Pennaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru: "Mae beichiogrwydd, rhoi genedigaeth a dyddiau cynnar bod yn rhiant ymysg yr amseroedd pwysicaf ym mywyd teulu. Mae gallu cyfathrebu yn yr iaith rydych chi'n teimlo'n fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio’n helpu i adeiladu ymddiriedaeth, rhoi sicrwydd a chefnogi dewisiadau gwybodus trwy gydol y daith yma.

"Bydd y bartneriaeth newydd hon yn helpu i gryfhau gofal mamolaeth sy'n canolbwyntio ar y person ledled Cymru a sicrhau bod mwy o fenywod a theuluoedd yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn Gymraeg os ydyn nhw'n dymuno cael hynny."

Ochr yn ochr â chefnogi'r gweithlu presennol, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn helpu mwy o bobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd ym maes gofal iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ers eu lansio, mae cynlluniau Doctoriaid Yfory, Deintyddion Yfory a Gweithwyr Iechyd Yfory y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi helpu dros 1,100 o ddarpar weithwyr gofal iechyd proffesiynol i gael mynediad at fentora, cymorth ymgeisio a chyfleoedd profiad gwaith.

 Un myfyriwr sy'n elwa o'r gefnogaeth honno yw Jano Evans o Dalgarreg, sydd wedi cwblhau ei blwyddyn gyntaf yn astudio Deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Dywedodd: "Heb y cynllun Deintyddion Yfory, ni fyddwn wedi cael y cyfle i astudio Deintyddiaeth. Mae'r gefnogaeth ges i wedi fy helpu i ddatblygu cais cryf a rhoi’r hyder i mi gredu bod gyrfa mewn deintyddiaeth o fewn fy nghyrraedd. Rwy'n mwynhau pob munud o fy nghwrs ac yn gobeithio dychwelyd i ardal Talgarreg i weithio fel deintydd yn y gymuned a chynnig gwasanaeth yn Gymraeg i gleifion."

 Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan: "I lawer o siaradwyr Cymraeg, mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg wrth dderbyn gofal yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w profiad. Gall helpu pobl i deimlo'n fwy cyfforddus a hyderus, cefnogi eu hurddas, a'i gwneud hi'n haws mynegi eu hunain a deall gwybodaeth bwysig am eu hiechyd a'u gofal.

 "Mae ein buddsoddiad yn helpu mwy o bobl i ddatblygu sgiliau Cymraeg a dilyn gyrfaoedd ar draws y sector iechyd a gofal, cryfhau'r gweithlu dwyieithog yng Nghymru a chreu mwy o gyfleoedd i gleifion a theuluoedd sy'n dymuno derbyn gofal yn Gymraeg."

Nodiadau i olygyddion

  • Mae cynllun iechyd a gofal y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnwys cyrsiau codi hyder a chyrsiau ac adnoddau arbenigol ar gyfer meysydd gan gynnwys gofal dementia, seiciatryddiaeth a gofal lliniarol a diwedd oes.
  • Nod cynllun Mwy na geiriau yn unig Llywodraeth Cymru  yw cryfhau gwasanaethau Cymraeg ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
  • Dydd Gwener 7 Awst ar faes yr Eisteddfod bydd trafodaeth yn cael ei chynnal rhwng Llais Cymru a swyddogion Mwy Na geiriau Llywodraeth Cymru ar addewid ar y cyd.