Newyddion

Canfuwyd 15 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2

Anna Brychan-2 cropped

"Mae cyfrifoldeb arnon ni i gael llythrennedd a rhifedd yn iawn, er mwyn y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol" – y Gweinidog Addysg

  • Cyhoeddi cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr 0-16 oed 
  • Y cynllun hwn yw cam cyntaf yr ymrwymiad i godi safonau ac mae'n ymateb i bryderon y gweithlu addysg 
  • Cyflwyno dangosyddion cenedlaethol ar gyfer llythrennedd a rhifedd, ynghyd ag asesiad gwaelodlin newydd ar gyfer dysgwyr sy'n dechrau'r ysgol 

 Cyhoeddwyd cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd heddiw (15 Medi). Mae'n amlinellu dangosyddion cenedlaethol newydd, asesiad gwaelodlin ar gyfer plant sy'n dechrau'r ysgol, a chanllawiau i athrawon ar yr hyn y dylai dysgwyr fod yn ei ddysgu ac ym mha gyfnod.

Cosine logo 1

Llywodraeth Cymru a Cosine yn cydweithio i gryfhau deallusrwydd artiffisial Cymraeg

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd â Cosine i helpu i wella sut mae deallusrwydd artiffisial yn gweithio yn Gymraeg.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu data, adnoddau ac arbenigedd i gefnogi deallusrwydd artiffisial Cymraeg.
  • Nod hyn yw gwella technoleg i helpu mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd.
Minister for Education and Welsh language school classroom cropped

Dweud eich dweud ar gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion

Mae ymgynghoriad sy’n gofyn am farn ar ganllawiau ar gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion wedi cael ei lansio.

Anna Brychan-2

Codi safonau yn gyfrifoldeb ar y cyd – y Gweinidog Addysg

  • Mae canlyniadau PISA a gyhoeddwyd heddiw yn amlygu'r her barhaus o godi safonau yn ysgolion Cymru.
  • Fodd bynnag, mae'r canlyniadau'n dangos bod ysgolion Cymru'n gymharol effeithiol wrth gefnogi'r dysgwyr mwyaf difreintiedig.
  • Mae'r perfformiad mewn darllen a gwyddoniaeth wedi aros yn weddol sefydlog ers 2022, gan ddarparu sail ar gyfer gwelliant pellach.
  • Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wedi rhoi sicrwydd i athrawon ac arweinwyr na fydd ymateb byrbwyll i'r canlyniadau ac y bydd cynlluniau ar waith i gefnogi ysgolion i godi safonau.

Minister for Education and Welsh language school classroom cropped

Rhaglen Bwyd a Hwyl dros wyliau'r haf yn cyrraedd carreg filltir o gynnig miliwn o lefydd

Yn ystod yr haf eleni, dechreuodd y Rhaglen Bwyd a Hwyl ar ei hail ddegawd gan ddathlu'r garreg filltir bwysig o gynnig miliwn o leoedd, yn darparu brecwast a chinio maethlon ynghyd â rhaglen weithgareddau ddiddorol i ddysgwyr yn ystod gwyliau'r haf.

WNS 200826 GCSE Results 002

Y Gweinidog dros Addysg yn llongyfarch dysgwyr ar ddiwrnod eu canlyniadau TGAU

Mae'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru sy'n derbyn canlyniadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol. 

Minister for Education and Welsh Langauge classroom

Teuluoedd cymwys yn gallu cofrestru i gael cymorth â chostau gwisg ysgol cyn y flwyddyn ysgol newydd

  • Gallai teuluoedd fod yn gymwys i gael hyd at £200 i helpu gyda chostau gwisg ysgol.
  • Mae'r cyfnod ymgeisio wedi cychwyn ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol  sy'n cefnogi teuluoedd cymwys â phlant o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11.

 

Wrth i'r paratoadau ddechrau ar gyfer dychwelyd i'r ysgol, mae teuluoedd yn cael eu hatgoffa i edrych a ydynt yn gymwys i gael Grant Hanfodion Ysgol, sy'n helpu dysgwyr gyda chostau gwisg ysgol.

Cabinet Minister for Education and Welsh Language cropped

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn hybu gofal drwy gyfrwng y Gymraeg

  • Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn arwain rhaglen Dysgu Cymraeg genedlaethol sy’n helpu staff iechyd a gofal i ddatblygu eu sgiliau a'u hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
  • Gall derbyn gofal yn Gymraeg helpu pobl i deimlo'n fwy cyfforddus, cael eu deall ac i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu gofal.
  • Mae cefnogaeth i fyfyrwyr a hyfforddeion yn helpu i dyfu gweithlu iechyd a gofal dwyieithog y dyfodol.
Mwynhau yn Llangrannog

Dros £3 miliwn i gymunedau Cymraeg

  • £2.7m ar gyfer canolfannau'r Urdd ym Mhentre Ifan, Llangrannog a Glan-llyn
  • £400,000 i helpu cymunedau i sefydlu mentrau cymdeithasol a phrosiectau tai dan arweiniad y gymuned
  • Nod y buddsoddiad yw cryfhau cyfleusterau cymunedol a chefnogi defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg
Minister for Education and Welsh Langauge classroom

Dangosyddion cenedlaethol newydd i fonitro cynnydd mewn llythrennedd a rhifedd

Bydd dangosyddion cenedlaethol newydd ar gyfer llythrennedd a rhifedd yn darparu darlun cliriach o gynnydd ac yn cefnogi’r gwaith o godi safonau addysg.

 

Cabinet Minister for Education and Welsh Language

Troi uchelgais yn weithredu: camau pendant i gyrraedd miliwn a mwy o siaradwyr Cymraeg

  • Ffocws ar gyflawni wedi blynyddoedd o siarad am uchelgais
  • Hanner plant Cymru i ddechrau eu siwrne mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050
  • Gwaith eisoes wedi dechrau yn y 100 diwrnod cyntaf i gryfhau’r Gymraeg mewn ardaloedd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg