Penodi panel arbenigol i adolygu cynnydd y Cwricwlwm i Gymru
Expert panel appointed to review Curriculum for Wales progress
Mae panel annibynnol newydd o arbenigwyr rhyngwladol wedi'i benodi i adolygu agweddau ar Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Mae pob dysgwr 3 i 16 oed bellach yn dysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru, a gyflwynwyd gyntaf yn 2022.
Mae'r cwricwlwm wedi cael derbyniad da ar draws y gweithlu addysg, ac mae athrawon wedi croesawu'r dull mwy cyfannol o ddatblygu dysgwyr.
Ond er bod gan y cwricwlwm lawer o gryfderau, mae athrawon hefyd wedi mynegi rhai anawsterau, gan sôn am ansicrwydd ynghylch disgwyliadau a phryderon ynghylch rôl gwybodaeth.
I ymateb i'r pryderon hyn, mae'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, wedi cyhoeddi adolygiad wedi'i dargedu o'r cwricwlwm i sicrhau bod y canllawiau'n glir, yn gydlynol ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mae'r panel arbenigol newydd yn cynnwys:
Yr Athro Dylan Wiliam, Athro Emeritws yn Sefydliad Addysg UCL. Mae'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei waith ar asesu ffurfiannol, ac mae'n dod ag arbenigedd dwfn mewn cynnydd, asesu yn yr ystafell ddosbarth a'r berthynas rhwng asesu, atebolrwydd, a gwelliant.
Dr Glenda Jones sy'n dod â phrofiad helaeth o gyfathrebu dwyieithog, hwyluso a dysgu creadigol. Bydd ei rôl gynnull yn cefnogi trafodaeth ar y cyd ac yn cynnal statws cyfartal ymhlith aelodau'r panel.
Lucy Crehan sy'n ymgynghorydd addysg ryngwladol, awdures a chyn-athrawes. Adolygodd y cwricwlwm yng Ngogledd Iwerddon ac mae wedi astudio systemau addysg yn rhyngwladol. Mae hefyd yn Gynghorydd Cyswllt ar y Cwricwlwm ym Mhrifysgol Abertawe.
Dr Sonny Singh sy'n uwch-academydd ac yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Saint David. Fel y prif ymchwilydd ar gyfer Camau i'r Dyfodol, mae'n gweithio'n uniongyrchol gyda gweithwyr proffesiynol ym maes addysg yng Nghymru i archwilio cynllunio cwricwlwm, cynnydd dysgwyr a sut y caiff y Cwricwlwm i Gymru ei wireddu'n ymarferol.
Yr Athro Louise Hayward, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Glasgow. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar asesu addysgol, cyfiawnder cymdeithasol a diwygio cynaliadwy. Mae wedi gweithio'n agos gydag ymarferwyr a llunwyr polisi yng Nghymru i ddatblygu dealltwriaeth o gynnydd ac asesu yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae hefyd wedi gweithio gyda chydweithwyr o’r meysydd ymchwil, polisi ac arferion yng Nghymru fel rhan o'r Rhwydwaith Asesu Addysgol Rhyngwladol.
Yr Athro Jim Spillane sy'n Athro Olin mewn Dysgu a Newid Sefydliadol ym Mhrifysgol Northwestern. Mae ei ymchwil yn archwilio sut y caiff polisi addysg ei ddehongli a'i weithredu mewn ysgolion, gyda arbenigedd penodol mewn arweinyddiaeth wasgaredig, newid sefydliadol a'r berthynas rhwng polisi ac arferion.
Bydd yr adolygiad yn ystyried sut i gryfhau agweddau penodol ar y cwricwlwm, gan ddefnyddio Addysg Wleidyddol a Hanes, ac yn benodol Hanes Cymru, fel achosion prawf ar gyfer symleiddio ac egluro disgwyliadau ar draws meysydd eraill.
Disgwylir y bydd cyngor sy'n deillio o'r achosion prawf hyn yn arwain at adolygiadau a gwaith mireinio yn y dyfodol, gyda chylch parhaus o werthuso yn angenrheidiol i gadw'r cwricwlwm yn gyfredol ac yn addas at y diben.
Dywedodd Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: "Mae fy mlaenoriaeth ar gyfer yr adolygiad hwn yn glir: adeiladu ar egwyddorion sylfaenol ein Cwricwlwm i Gymru, a rhoi'r disgwyliadau clir sydd eu hangen ar ysgolion i wneud iddo weithio i bob plentyn.
"Gwn fod ysgolion wedi buddsoddi llawer iawn o amser ac ymdrech i weithredu'r cwricwlwm, ac nid oes gen i unrhyw fwriad i wneud bywyd yn anoddach i staff.
"Yn hytrach, mae'r adolygiad yn ceisio gwneud nifer hylaw o welliannau ymarferol i ddisgwyliadau a chanllawiau'r cwricwlwm cenedlaethol er mwyn gwneud profiad y dysgwyr yn fwy cyson a lleihau'r llwyth gwaith diangen i ymarferwyr. Y bwriad yw gwneud y gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm yn haws drwy gael gwared ar amwysedd a rhoi mwy o hyder i athrawon yn y penderfyniadau y maent yn eu gwneud.
"Rwyf am rymuso athrawon i dreulio mwy o'u hamser yn cynllunio dysgu o ansawdd uchel, yn myfyrio ar gynnydd ac arferion ac yn ymgysylltu â'u dysgwyr, yn hytrach na llywio cymhlethdod a llenwi bylchau mewn dogfennau.
"Pan ddylid gwneud pethau'n gyson, bydd y panel yn dweud hynny. Pan fo cyfle i arloesi a defnyddio mwy ar farn broffesiynol, bydd y panel hefyd yn gwneud hyn yn glir. Edrychaf ymlaen at gael adborth y panel ac rwy'n ddiolchgar iddynt am gytuno i gymryd rhan."
Dywedodd Dr Glenda Jones: "Mae fraint cael y cyfle i gyfrannu at gam nesaf y Cwricwlwm i Gymru.
“Mae'r adolygiad hwn yn ymwneud â gwrando a dysgu: cydnabod beth sy'n gweithio'n dda, deall yr hyn sydd wedi bod yn heriol i’n hysgolion a'n lleoliadau, ac ystyried lle gallwn wneud pethau'n gliriach ac yn fwy cefnogol i'n proffesiwn addysgu.
“Mae'n gyfle cyffrous i ddwyn ynghyd profiad o bob cwr o Gymru a thu hwnt, ac i helpu i sicrhau bod ein cwricwlwm yn darparu’r cynnig gorau i ddysgwyr Cymru.”
Dywedodd yr Athro Dylan Wiliam: 'Rwy'n falch iawn o gael dychwelyd i Gymru a chael y cyfle i gyfrannu rhywfaint o'r hyn rydw i wedi'i ddysgu dros flynyddoedd lawer o weithio ar gwricwlwm ac asesu.
"Mae'r adolygiad hwn yn gyfle cyffrous i adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes yn cael ei wneud drwy’r Cwricwlwm i Gymru. Rydym am ddeall beth sy'n gweithio'n dda, beth sydd wedi bod yn heriol i ysgolion a lleoliadau, a ble y gallai mwy o eglurder ynghylch y cwricwlwm ac asesu wneud gwahaniaeth mawr."
Bydd y panel yn archwilio tystiolaeth ac yn ymgysylltu'n eang ar draws y system addysg, gan gynnwys ymweld ag ysgolion a lleoliadau a siarad ag athrawon a dysgwyr.
Bydd y panel yn adrodd i'r Gweinidog yn nhymor yr haf 2027.