12-11-26  Ysgol Ein Harglwyddes-88-2

Y Gweinidog Cabinet dros Addysg yn clywed gan ddysgwyr a staff o'r Gogledd

Education Minister hears from learners and staff from North Wales

Mae'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, wedi cwrdd â dysgwyr ac athrawon o'r Gogledd i weld drosti'i hun sut mae cynaliadwyedd wedi helpu i siapio adeiladau ysgol newydd, a sut mae cynlluniau yng Ngwynedd yn cefnogi siaradwyr newydd i ddysgu Cymraeg.

Fe wnaeth y Gweinidog Cabinet dros Addysg ac Esgob Wrecsam agor Ysgol Ein Harglwyddes ym Mangor, sydd wedi'i datblygu ar safle hen Ysgol Glanadda. Dyluniwyd yr ysgol gyda chynaliadwyedd wrth wraidd y gwaith, gan gynnwys technolegau ynni adnewyddadwy a nodweddion ynni-effeithlon. Mae'r prosiect, sydd wedi'i ariannu drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, wedi buddsoddi’n helaeth yn y gymuned leol trwy gyfleoedd cyflogaeth, prentisiaethau, hyfforddiant a phrofiad gwaith.

Mae deunyddiau o'r hen Ysgol Glanadda yn cael eu hailddefnyddio ar Gampws Cymunedol newydd Bontnewydd. Bu'r Gweinidog yn rhan o'r dathliad 'Adeiladu Dyfodol Cynaliadwy' ar Gampws Cymunedol Bontnewydd, gan helpu i osod brics sylfaen olaf adeilad newydd yr ysgol. Mae'r campws yn un o dri a oedd yn llwyddiannus yn Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio creu ysgolion arloesol sy'n rhoi cynaliadwyedd, carbon sero net a chydweithrediad cymunedol wrth wraidd pob prosiect. Bydd y Campws Cymunedol yn ofod i'r gymuned gyfan, gan roi lle i addysg, llesiant a gweithgareddau cymunedol mewn un adeilad. Bydd yn cynnwys ysgol gynradd, dosbarth meithrin, dosbarth anghenion dysgu ychwanegol (ADY), canolfan gymunedol hyblyg a mannau dysgu awyr agored.

Yn ystod ei hymweliad â'r Gogledd, gwelodd y Gweinidog yr Uned Trochi Iaith yn Ysgol Tryfan ym Mangor, sy'n helpu plant sy'n newydd i'r Gymraeg i ennill y sgiliau a'r hyder i ymuno ag addysg cyfrwng Cymraeg, beth bynnag fo'u cefndir ieithyddol. Cyfarfu'r Gweinidog â staff a disgyblion sydd wedi mynychu'r ganolfan a gwelodd ddysgwyr yn defnyddio'r Gymraeg wrth sgwrsio, chwarae gemau a defnyddio apiau rhyngweithiol. Fe wnaeth y Gweinidog hefyd roi cynnig ar Aberwla, pentref trochi realiti rhithwir lle gall y dysgwyr ymarfer eu Cymraeg mewn sefyllfaoedd bob dydd fel siopau a chaffis. Datblygwyd Aberwla yng Ngwynedd ac mae bellach hefyd ar gael ar Hwb i gefnogi unedau trochi ledled y wlad. Mae darpariaeth drochi yn chwarae rhan allweddol o ran cefnogi polisi Llywodraeth Cymru i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

Bu hefyd yn ymweld ag Ysgol Dyffryn yr Enfys yn Nyffryn Conwy i weld sut mae'r ysgol wledig yn dod â disgyblion o ardal eang at ei gilydd, gan ddathlu hunaniaeth y tri phentref y mae'n eu gwasanaethu. Agorodd yr ysgol yn 2019 ar ôl uno Ysgol Trefriw, Ysgol Dolgarrog ac Ysgol Tal y Bont. Mae'r ysgol, sydd wedi'i hariannu drwy Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, yn dangos sut y gall buddsoddiad helpu i sicrhau dyfodol hirdymor addysg wledig, gan ddod â chymunedau at ei gilydd mewn amgylchedd dysgu modern sy'n uchel ei ansawdd a chynnal ymdeimlad cryf o hunaniaeth leol a darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg, Anna Brychan:

"Fel llywodraeth ry'n ni wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at amgylchedd dysgu o ansawdd uchel i gefnogi ei addysg, ei lesiant a'i ddyheadau yn y dyfodol. Mae'n braf gwybod bod y pwyslais cryf hwn yn cael ei roi ar gynaliadwyedd ac rwyf wedi gweld yn uniongyrchol y gwahaniaeth y mae eisoes yn ei wneud. Wrth inni weithio gyda'n gilydd tuag at ddyfodol gwyrddach, mae'n hanfodol bod adeiladau ein hysgolion yn chwarae eu rhan, eu bod nhw'n amgylcheddau dysgu sy'n dylanwadu a hefyd yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Fodd bynnag, mae addysg yn ymwneud â llawer mwy nag adeiladau newydd. Mae hyn yn fuddsoddiad yn nyfodol ein plant a'n pobl ifanc, i ddarparu'r amgylchedd gorau iddynt ddysgu, datblygu a ffynnu. Mae'r ysgolion yr wyf wedi ymweld â nhw yn enghreifftiau ardderchog o'r hyn yr ydym am ei gyflawni a'r weledigaeth newydd ar gyfer addysg yng Nghymru. Roedd yn atgof pwerus o sut y gall buddsoddiad yn ein hysgolion arwain at fanteision cymdeithasol ac economaidd ehangach, cefnogi cymunedau a chreu cyfleoedd ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Notes

  • The Sustainable Schools Challenge is part of the Sustainable Communities for Learning Programme. It explores new ways of designing, refurbishing and building sustainable school buildings with the future in mind. It selected three winning projects, one in North Wales and two in South Wales. Elements of these projects will be used as case studies to influence the design of future schools across Wales.
  • £16 million was provided from the Welsh Government through the Sustainable Schools Challenge to develop Bontnewydd Community Campus and a new school. The campus is due to open in spring 2028.
  • On average around 200 pupils receive support from the Immersion Regime each year.