Cyflwyno prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8
Free school meals rolled out to pupils in years 7 and 8
- Mae prydau ysgol am ddim yn cael eu cyflwyno ledled Cymru ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 7 ac 8 sy'n byw ar aelwydydd sy'n cael Credyd Cynhwysol.
- Bydd pob awdurdod lleol yn rhoi prydau bwyd i ddysgwyr cymwys erbyn Ionawr 2027.
- Dylai rhieni a gofalwyr plant ym mlynyddoedd 7 ac 8 sy'n cael Credyd Cynhwysol gofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim trwy eu hawdurdod lleol er mwyn sicrhau bod eu plentyn yn gallu manteisio ar bryd o fwyd yn yr ysgol.
Mae prydau ysgol am ddim yn cael eu cyflwyno ledled Cymru ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 7 ac 8 o aelwydydd sy'n cael Credyd Cynhwysol, waeth beth yw incwm yr aelwyd.
Bydd pob awdurdod lleol yn rhoi prydau bwyd i ddysgwyr cymwys erbyn Ionawr 2027, ac mae dros hanner awdurdodau lleol Cymru eisoes yn darparu'r prydau hyn am ddim o dan y cynllun estynedig.
Dylai rhieni a gofalwyr sydd â phlant ym mlynyddoedd 7 ac 8 sy'n cael Credyd Cynhwysol gofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim trwy eu hawdurdod lleol er mwyn sicrhau y gall eu plentyn gael pryd o fwyd yn yr ysgol.
Mae ehangu mynediad at brydau ysgol am ddim yn ymrwymiad allweddol yn Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, dim ond os yw teulu’n cael Credyd Cynhwysol a bod incwm y cartref yn llai na £7,400, heb gynnwys budd-daliadau, y mae disgyblion ysgol uwchradd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Canfu gwerthusiad interim diweddar o'r Rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Bawb fod ymwybyddiaeth o'r cynllun a'r defnydd ohono yn uchel, a'i fod yn dod â manteision i ddysgwyr a theuluoedd, yn enwedig o ran lles ac arbedion ariannol.
Yn ogystal, mae prydau ysgol gynradd bellach yn fwy maethlon. Ar 31 Hydref, daeth y rheoliadau newydd ar fwyta'n iach mewn ysgolion i rym. Mae'r rheoliadau hyn wedi newid y mathau o fwyd y gellir eu gweini mewn ysgolion, gan gynyddu'r ddarpariaeth o ffrwythau a llysiau a chyfyngu ar fwydydd sy'n uchel mewn siwgr a bwydydd wedi'u ffrio, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad at ddeiet cytbwys a maethlon. Bydd bwyd ysgol hefyd yn faes ffocws allweddol yn ystod camau cynnar datblygu Strategaeth Bwyd newydd Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan:
"Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i ddysgwyr ym mlynyddoedd 7 ac 8 yn nodi'r cam cyntaf yn ein hymrwymiad i estyn prydau ysgol am ddim i ragor o ddysgwyr ysgolion uwchradd, gan sicrhau bod y cymorth hwn yn cyrraedd y teuluoedd sydd ei angen fwyaf. Mae cael mynediad at fwyd maethlon yn gwella gallu rhywun i ganolbwyntio, yn cefnogi cyrhaeddiad addysgol ac yn hybu iechyd yn gyffredinol. Rydyn ni eisoes wedi gweld trwy'r Rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Bawb faint o wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i deuluoedd a dysgwyr. Rwy'n annog rhieni a gofalwyr plant ym mlynyddoedd 7 ac 8 sy'n gymwys i fynd ati i gofrestru gyda'u hawdurdod lleol er mwyn manteisio ar y cynnig hwn o brydau ysgol am ddim."
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:
"Bydd ehangu'r hawl am brydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau bob dydd. "Mae estyn yr hawl i gael prydau ysgol am ddim i ragor o deuluoedd sy’n cael Credyd Cynhwysol yn gam pwysig yn ein hymdrechion ehangach i fynd i’r afael â thlodi plant a lleihau anghydraddoldebau ledled Cymru.
Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a chynllun peilot Cynnal sy'n cynnig taliadau ar gyfer teuluoedd incwm isel, unwaith y byddwn wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig na fydd derbyn y taliad yn arwain at unrhyw anfantais i'r teuluoedd sy'n ei gael. Mae hyn i gyd yn cael ei ategu drwy ddatblygu Strategaeth Tlodi Plant newydd gyda thargedau clir ac atebolrwydd cadarn."
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Notes
As part of the co-operation agreement with Plaid Cymru between 2021 and 2024, the Welsh Government expanded free school meals to all primary school children in Wales.
In June 2026 the Welsh Government committed to expanding free school meals to secondary school pupils in households receiving Universal Credit by removing the income limit.
For more information and to apply, visit: Get help with school costs | GOV.WALES