Milk-2

Gofyn am farn ar ddyfodol llaeth ysgol am ddim yng Nghymru

Views sought on future of free school milk in Wales

  • Mae ymgynghoriad 10 wythnos ar ddarpariaeth llaeth i ysgolion yng Nghymru wedi’i lansio.
  • Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ynghylch a ddylid sefydlu Cynllun Llaeth Ysgol Cymru, neu a ddylid dod â’r ddarpariaeth o laeth ysgol am ddim i ben.
  • Waeth beth yw canlyniad yr ymgynghoriad, bydd llaeth yn parhau i fod ar gael i blant oedran cynradd trwy glybiau brecwast ac amser cinio trwy’r rhaglen Prydau Ysgol Am Ddim i bob Plentyn Cynradd.

Mae ymgynghoriad sy'n ceisio barn ar ddarpariaeth llaeth ysgol yng Nghymru yn cael ei lansio heddiw [26 Hydref 2026].

Ar hyn o bryd mae'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yn darparu llaeth am ddim i ddysgwyr yn y Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2 a llaeth â chymhorthdal i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 3-6 ac mae'n cael ei weinyddu gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) ar ran Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, bydd yr RPA yn rhoi'r gorau i ddarparu'r cynllun i Gymru ar ôl 31 Mawrth 2027.

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar ddyfodol y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol ac a ddylid sefydlu cynllun llaeth ysgol newydd yng Nghymru i barhau â'r cynllun am ddim o fis Ebrill 2027 neu a ddylid rhoi'r gorau i'r ddarpariaeth llaeth ysgol am ddim yn gyfan gwbl.

Waeth beth yw canlyniad yr ymgynghoriad, bydd llaeth yn parhau i fod ar gael i blant oedran cynradd trwy glybiau brecwast ac amser cinio trwy’r rhaglen Prydau Ysgol Am Ddim i bob Plentyn Cynradd.

Yn ogystal, mae'r ymgynghoriad yn ategu datblygiad Strategaeth Fwyd Genedlaethol Cymru. Un o nodau'r strategaeth hon fydd cynyddu'r defnydd o gynnyrch o Gymru ar draws y system fwyd, gan gynnwys mewn ysgolion. Bwyd ysgol fydd un o'r meysydd cyntaf y bydd y gweithgor arbenigol yn canolbwyntio arno, a fydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu Strategaeth Fwyd Genedlaethol Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan:
" Mae llaeth yn rhan bwysig o gefnogi iechyd a llesiant ein dysgwyr ieuengaf ers amser maith, ac rwyf am wneud yn siŵr bod unrhyw benderfyniadau am ei ddyfodol yn seiliedig ar y dystiolaeth gryfaf bosibl. Dyna pam rydw i'n lansio'r ymgynghoriad hwn heddiw, i glywed yn uniongyrchol gan ysgolion, rhieni, dysgwyr a'r sectorau ffermio a llaeth. Byddwn yn annog pawb sydd â barn ar y mater hwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a helpu i lywio ein penderfyniad a'r ffordd ymlaen."

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ar y camau nesaf a bydd yn rhedeg am 10 wythnos. Gellir dod o hyd iddo yma.

DIWEDD

 

Nodiadau i olygyddion

Notes

The School Milk Subsidy Scheme (SMSS) is currently administered by the Rural Payments Agency (RPA) on behalf of Welsh Government. In April 2024, the RPA notified Welsh Government of its intention to cease providing SMSS services to the devolved nations and will stop administering the scheme in Wales after 31 March 2027.

Separate arrangements exist for children below statutory school age through the Nursery Milk Scheme. Any decision regarding the future of the School Milk Subsidy Scheme would not affect existing milk provision for pre-school children.

More information on The National Food Strategy for Wales can be found here.