Dweud eich dweud ar gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion
Have your say on restricting mobile phones in schools
Mae ymgynghoriad sy’n gofyn am farn ar ganllawiau ar gyfyngu ar ffonau symudol mewn ysgolion wedi cael ei lansio.
Bydd yr ymgynghoriad, a fydd ar agor am 12 wythnos, yn helpu i lunio’r canllawiau i gefnogi ysgolion i ddatblygu polisi ffonau symudol.
Bydd y canllawiau newydd hyn yr ymgynghorir arnynt yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2027. Fe’u datblygwyd mewn ymateb i bryderon cynyddol am yr effaith y mae’r defnydd o ffonau symudol yn ei chael ar lesiant, ymgysylltiad, dysgu ac ymddygiad dysgwyr, wrth gydnabod y rôl bwysig y gall technoleg ddigidol ei chwarae mewn addysg pan gaiff ei defnyddio mewn ffordd briodol.
Bydd ‘Datblygu polisi ffonau symudol: canllawiau i ysgolion’ yn darparu mwy o eglurder a chysondeb ledled Cymru. Bydd yn helpu ysgolion i ddatblygu a gwella eu polisïau ffonau symudol, gyda’r disgwyliad bod y defnydd o ffonau symudol yn cael ei gyfyngu yn ystod y diwrnod ysgol, wrth ganiatáu i ysgolion fod yn hyblyg ac ymateb i’w hamgylchiadau lleol.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan:
“Roedd Cynllun y 100 Diwrnod Cyntaf yn cynnwys ymrwymiad clir i weithredu ar y mater o ddefnydd ffonau symudol mewn ysgolion. Rwy’n cefnogi’n llawn, ac yn annog yn gryf, gyflwyno cyfyngiadau clir a chadarn ar ddefnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, hyd at ac yn cynnwys cyfyngiad llwyr ar draws safle’r ysgol. Mae’r effaith y gall ffonau symudol, cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg ehangach ei chael ar lesiant, ymddygiad a phrofiadau dysgu yn sylweddol, ac mae ysgolion a theuluoedd wedi codi pryderon dilys am dynnu sylw yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd y canllawiau hyn yn darparu cyfeiriad cenedlaethol clir ac yn galluogi ysgolion i ddatblygu polisïau cadarn, sy’n gyson ledled Cymru. Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i ysgolion, rhieni, dysgwyr a rhanddeiliaid sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed ac i lunio’r canllawiau newydd i sicrhau eu bod yn ymarferol ac yn effeithiol.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Notes
The consultation can be found here