Hwb logo-2

Platfform addysg ysgolion Cymru wedi'i ailwampio, gyda mynediad am ddim i Microsoft 365

School’s Education Web Platform Revamped, with Free Microsoft 365 Access

  • Platfform cenedlaethol newydd Hwb wedi’i siapio gan adborth gan ddysgwyr ac athrawon
  • Mae llywio gwell yn ei gwneud yn haws dod o hyd i wasanaethau, gwybodaeth a chymorth
  • Mae dysgwyr ac athrawon yn parhau i elwa ar fynediad am ddim i Microsoft 365 gartref

Mae platfform newydd sydd wedi'i ailgynllunio, sy’n haws ei ddefnyddio ac sy’n ymatebol wedi'i lansio ar gyfer ysgolion ledled Cymru.

 

Hwb yw platfform addysg Cymru ar y we, sy'n darparu mynediad i ddysgwyr ac athrawon at ystod eang o offer, adnoddau a gwasanaethau digidol yn yr ysgol ac yn y cartref.

Helpodd adborth gan athrawon a dysgwyr i lunio'r platfform newydd o amgylch eu hanghenion. Mae'r gwelliannau yn cynnwys gwell profiad wrth lywio’r platfform, mynediad haws at wybodaeth a gwasanaethau allweddol, a phrofiad mwy personol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae mynediad am ddim i Microsoft 365 gartref hefyd yn parhau i fod yn fantais allweddol ar Hwb. Gall dysgwyr ac athrawon lawrlwytho a gosod Microsoft 365 ar ddyfeisiau personol am ddim, gan helpu teuluoedd i arbed arian. Mae hyn yn cynnwys offer cyfarwydd fel Word, PowerPoint, Excel a Teams.

Dywedodd Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: :

"Mae Hwb yn adnodd gwych i athrawon a dysgwyr, gyda mwy na 1,450 o ysgolion a 122,000 o deuluoedd yn elwa ar y platfform.

"Rydyn ni'n gwybod bod costau byw yn parhau i roi pwysau ar deuluoedd. Mae Hwb yn darparu mynediad am ddim i ystod o adnoddau Microsoft i gefnogi dysgu gartref, a bydd y platfform wedi'i ailwampio yn ei gwneud hi'n haws fyth i deuluoedd, dysgwyr ac athrawon gael mynediad at y gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael iddynt."