Buddsoddiad o dros £21 miliwn i drawsnewid mynediad at feddyginiaethau

Over £21 million investment to transform access to medicines

Bydd cyfleuster newydd yng Nghasnewydd yn sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael y meddyginiaethau sydd eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen arnynt.

Heddiw [dydd Iau 26 Tachwedd], bydd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, yn cyhoeddi cyllid o £21.7m ar gyfer Hyb Trawsnewid Mynediad at Feddyginiaethau (TrAMs) De-ddwyrain Cymru yn ystod ymweliad â'r cyfleuster radiofferylliaeth newydd ym Mharc Imperial, Casnewydd.

Mae'r galw am feddyginiaethau, yn enwedig triniaethau canser, yn cynyddu. Mae'r cyfleusterau ysbyty presennol yn ne-ddwyrain Cymru, sy'n paratoi llawer ohonynt, yn ei chael hi'n anodd cadw i fyny â'r galw. Bydd yr Hyb newydd yn dod â'r gwaith hwn ynghyd mewn un cyfleuster modern sy'n gwasanaethu naw o ysbytai mawr a chanolfannau canser yn y rhanbarth.

Bydd yr Hyb wedi'i leoli ar yr un safle â'r radiofferyllfa newydd, gan ddod ag arbenigedd GIG Cymru mewn gweithgynhyrchu meddyginiaethau ynghyd mewn cyfleusterau a all ateb y galw presennol a'r galw yn y dyfodol am feddyginiaethau chwistrelladwy newydd ac arloesol. Bydd yn paratoi meddyginiaethau di-haint gan gynnwys triniaethau canser, cynhyrchion maeth i bobl na allant fwyta, a meddyginiaethau ar gyfer treialon clinigol.

Dyma'r cyntaf o dri chanolfan ranbarthol arfaethedig sy'n rhan o raglen ledled Cymru i greu gwasanaeth gweithgynhyrchu meddyginiaethau ar y cyd ar gyfer GIG Cymru, a ddarperir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG. Disgwylir i gyfleusterau newydd yn y De-orllewin a'r Gogledd ddilyn. Bydd yr Hyb yng Nghasnewydd yn gwasanaethu'r De-ddwyrain i ddechrau cyn ehangu'n ganolfan weithgynhyrchu genedlaethol.

Disgwylir i'r Hyb agor yn 2028-29 a bydd yn creu tua 30 i 40 o rolau arbenigol ychwanegol. Bydd yn helpu pobl leol i gamu ymlaen o swyddi lefel mynediad i swyddi arbenigol, ac mae cydweithwyr y rhaglen eisoes yn gweithio gydag ysgolion a cholegau i annog pobl ifanc i ddilyn gyrfa yn y maes medrus hwn.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor:

"Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau bod cleifion ledled Cymru gyfan yn gallu cael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw heb oedi. Drwy ddod â'r gwaith o baratoi meddyginiaethau ynghyd mewn cyfleuster modern, pwrpasol, o'r radd flaenaf, rydyn ni'n adeiladu Gwasanaeth Iechyd mwy gwydn ac yn rhyddhau staff i dreulio mwy o amser yn gofalu am gleifion."

Dywedodd Neil Frow OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru:

"Nid buddsoddiad mewn adeilad newydd yn unig yw hyn. Mae'n fuddsoddiad mewn cleifion, yn ein gweithlu ac mewn datblygu mwy o allu yma yng Nghymru. Bydd yn galluogi mwy o driniaethau hanfodol i gael eu paratoi'n nes at y cleifion a'r timau clinigol sy'n dibynnu arnyn nhw."

Disgwylir i'r Hyb gostio tua £1.5m y flwyddyn yn llai i'w redeg na'r trefniadau presennol, gydag arbedion disgwyliedig blynyddol o £4.5m erbyn 2032-33. Bydd hefyd yn lleihau dibyniaeth y GIG ar gyflenwyr masnachol y tu allan i Gymru ac yn rhyddhau lle mewn ysbytai at ddibenion eraill.

Bydd cyllid yn cael ei ddarparu dros 2026-27 a 2027-28.