English icon English
ageing image-2

Buddsoddiad o £1.1 miliwn i sicrhau bod Cymru yn wlad o blaid pobl hŷn

£1.1 million investment to champion older people as Wales becomes Age Friendly

Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi’r camau gweithredu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu pobl hŷn a herio’r ffordd rydym yn meddwl am heneiddio.

Cafodd y cynllun cyflawni ei lunio mewn partneriaeth â phobl hŷn a’u cynrychiolwyr, ac mae’n amlinellu’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wireddu’r weledigaeth a nodir yn Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio.

Mae £1.1 miliwn ar gael i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi eu gwaith o blaid pobl hŷn a sicrhau bod pobl hŷn yn rhan o’r gwaith o ddylunio a chynllunio gwasanaethau lleol.

Nod y camau yn y cynllun cyflawni yw codi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn, mynd i’r afael â thlodi sy’n gysylltiedig ag oedran, gwella gwasanaethau a mannau cyhoeddus, a lleihau unigrwydd drwy hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli fel ffordd o annog mwy o bobl i ymgysylltu â’u cymunedau. Mae camau penodol yn cynnwys:

  • cefnogi pobl hŷn i fod yn hyderus yn ddigidol
  • parhau â’r Rhaglen Prentisiaethau Bob Oed
  • cefnogi busnesau i fod yn fwy cynhwysol o ran oedran ac i gadw, ail-hyfforddi a recriwtio gweithwyr hŷn
  • ariannu gwelliannau i seilwaith gwasanaethau bysiau er mwyn sicrhau bod mwy o safleoedd bysiau a chyfnewidfeydd allweddol yn gwbl hygyrch i bawb
  • mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni
  • cynyddu nifer y bobl sy’n hawlio’r credyd pensiwn

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Rydym am greu Cymru lle mae pawb yn edrych ymlaen at fynd yn hŷn a lle caiff oedran ei ddathlu. Ein Gweledigaeth yw cael Cymru o blaid pobl hŷn sy’n cefnogi pawb o bob oed i fyw a heneiddio’n dda. Yn rhy aml, mae heneiddio’n cael ei gysylltu â salwch a dirywiad ac mae cyfraniadau pobl hŷn i gymdeithas yn cael eu hanwybyddu.  

“O sicrhau bod tai yn cefnogi pobl i heneiddio’n dda, i greu cyfleoedd i aros yn iach ac yn egnïol, mae’r cynllun hwn yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth a gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys y Comisiynydd Pobl Hŷn, i wrthsefyll rhagfarn ar sail oedran a gwireddu ein gweledigaeth i greu Cymru o blaid pobl hŷn.”

Dywedodd prif weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd:

"Mae heriau na welwyd eu tebyg yn wynebu pobl hŷn ar hyn o bryd. Mae llawer ohonynt wedi bod yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd ers sawl blwyddyn, ond mae’r broblem wedi gwaethygu’n aruthrol eleni oherwydd y cynnydd mewn biliau tanwydd a chostau byw. 

"Daw hyn ar ben yr heriau o ran gorbryder, unigedd ac iechyd emosiynol y mae llawer o bobl hŷn wedi'u hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf drwy'r pandemig a'r cyfyngiadau symud a ddaeth yn ei sgil. 

"Mae llawer i'w wneud i greu Cymru sy'n ystyriol o oedran, ac mae’n briodol felly bod y cynllun yn un eang ei gwmpas. Ymysg y blaenoriaethau mae camau i fynd i'r afael â thlodi a'r effaith andwyol y mae'n ei chael ar fywydau pobl hŷn, a mesurau i wella ymwybyddiaeth pob un ohonom o hawliau dynol fel y gall pobl hŷn fyw eu bywydau ag urddas ac yn unol â’u dewis.

"Rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wireddu eu huchelgais ar gyfer Cymru sydd o blaid pobl hŷn."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Notes

The vision for older people in Wales is set out in Age Friendly Wales: Our Strategy for an Ageing Society.

The Strategy was published in October 2021.