Buddsoddiad o £1.98m gan Lywodraeth Cymru yn gweld canolfan ymchwil a datblygu flaenllaw ar agor yn y Trallwng
£1.98m Welsh Government investment sees flagship research and development centre open in Welshpool
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw bod canolfan ymchwil a datblygu flaenllaw wedi agor yn y Trallwng diolch i fuddsoddiad o £1.98m gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y cwmni modurol YASA Ltd yn ehangu ei weithrediadau'n sylweddol o'r ganolfan newydd, sydd wedi'i leoli ym Mharc Busnes Clawdd Offa, gan greu hyd at 40 o swyddi newydd.
Mae YASA, un o brif wneuthurwyr moduron trydan uwch a rheolwyr moduron ar gyfer cerbydau hybrid a thrydan, yn rhagweld y bydd bron yn treblu ei weithlu yn ei ganolfan newydd.
Bydd yr adeilad, sydd wedi'i adeiladu gan gontractwyr adeiladu canolbarth Cymru Pave Aways, yn cynnwys ystafelloedd sydd wedi'u cynllunio ar gyfer effeithiau cyflymder uchel a fydd yn cynnal profion straen ar foduron.
Mae YASA, a fydd yn prydlesu'r adeilad newydd, eisoes yn gyflogwr pwysig yn y Trallwng, gan gyflogi 15 o beirianwyr â chymwysterau uchel.
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn arwydd clir o ymrwymiad i'r gweithlu a'r ardal leol.
Meddai Chris Harris, Prif Swyddog Gweithredol YASA: "Rydym wedi bod yn gweithredu yn y Trallwng ers 2016 ac mae'n parhau i fod yn ganolbwynt talent peirianneg i ni.
"Rydym yn teimlo'n gyffrous i fod yn cyflymu ymdrechion recriwtio YASA yn yr ardal drwy gynyddu ein tîm electroneg pŵer ac yn falch o fod yn symud i'r ganolfan ymchwil a datblygu flaenllaw hon i gefnogi twf lleol a chadw talent arbenigol."
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Pave Aways, Steven Owen: "Rydym yn falch iawn o fod wedi darparu adeilad blaenllaw arall i Lywodraeth Cymru ar y parc busnes hwn. Yn ogystal ag adeiladu'r sylfaen i YASA dyfu ei fusnes, mae hefyd wedi bod o fudd i economi Cymru wrth i ni ddefnyddio busnesau yn ein cadwyn gyflenwi leol lle bynnag y bo modd."
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Wrth i ni wella o'r Coronafeirws rydym am weld ein busnesau'n tyfu, yn llwyddo ac yn ffynnu mewn economi sy'n fwy llewyrchus, teg a gwyrdd nag erioed o'r blaen.
"Rwy'n falch iawn bod ein cefnogaeth i ddarparu adeiladau newydd i YASA yn cryfhau sefyllfa busnesau yn y Trallwng ac yn creu cymaint o swyddi o safon gyda cyflogwr pwysig yn yr ardal. Mae'r newyddion heddiw yn hwb i'w groesawu i'r economi leol ac yn dangos gwir ymrwymiad i sgiliau ac ymrwymiad y gweithlu. Bydd manteision ehangach hefyd yn cael eu teimlo yn yr ardal gan fod cwmni adeiladu lleol yn adeiladu cyfleuster newydd YASA.
"Rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymru wrth i ni ailadeiladu ein heconomi ac mae'r cyhoeddiad hwn yn arwydd clir o hynny."