Dirprwy Weinidog yn cwrdd â'r Arglwydd Burns i drafod gwelliannau trafnidiaeth
Deputy Minister meets Lord Burns to discuss transport improvements
- Cyfarfu Mark Hooper, y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, â'r Arglwydd Burns i drafod sut mae'r gwaith o fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 a seilwaith rheilffyrdd newydd yn ne-ddwyrain Cymru yn mynd rhagddo
- Cytunwyd ar ddatblygu perthynas waith bositif â Llywodraeth y DU, ac fe gyfeiriodd y ddau at y Bil Rheilffyrdd fel cyfle da i wneud cynnydd yn y maes hwn, er mwyn helpu i wella cymunedau ar hyd a lled rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
Cyfarfu Mark Hooper, y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, â'r Arglwydd Burns yr wythnos hon i rannu eu safbwyntiau ar gyfeiriad polisi trafnidiaeth a buddsoddi ynddo ledled Cymru i'r dyfodol.
Roedd edrych ar y gwaith sy'n cael ei wneud i weithredu argymhellion Adolygiad Burns - sef delio â thagfeydd traffig ar yr M4 ac adeiladu seilwaith rheilffyrdd newydd - ar frig yr agenda.
Wedi'r cyfarfod, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper:
"Roedd hi'n dda cael cwrdd â'r Arglwydd Burns a chadarnhau ein bod yn cyd-fynd â'n gilydd ar y prif faterion sy'n wynebu dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru. Roedd y ddau ohonom yn gytûn bod angen cyflymu'r trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli'n briodol.
"Mae'r Bil Rheilffyrdd yn gyfle gwych i ddatblygu'r berthynas waith hon gyda Llywodraeth y DU er mwyn inni allu darparu manteision gwirioneddol i bobl yng Nghymru a chymunedau'r gororau, yn awr ac yn y dyfodol.
"Cyfrannodd yr Arglwydd Burns ei wybodaeth ddofn, amhrisiadwy i'r sgwrs, ac nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd hynny'n helpu i rymuso'r trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn y dyfodol, gan sicrhau nad yw buddiannau teithwyr Cymru yn cael eu hanwybyddu gan Great British Railways sy'n or-ganolog."
Ychwanegodd yr Arglwydd Burns, sef Cadeirydd Adolygiad Burns:
"Mae'r tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn fater sy'n agos at fy nghalon. Rwy'n dal yn ymroddedig i helpu i sicrhau bod yr opsiynau gorau ar gyfer gwella gwydnwch, dibynadwyedd a chysylltedd yn Ne-ddwyrain Cymru yn cael eu gwireddu.
"Mae'r cyfarfod yr wythnos hon wedi rhoi cyfle gwerthfawr i mi ddeall y materion sy'n flaenoriaeth ac i drafod â'r Dirprwy Weinidog sut y gallem fynd i'r afael â'r heriau hyn gyda'n gilydd.
"Mae cysylltiadau trafnidiaeth gwell yn hanfodol i economi Cymru. Maent yn galluogi busnesau i dyfu a ffynnu, ac yn ei gwneud hi'n haws i bobl deithio, boed i'r gwaith neu i hamddena."
Argymhellodd adolygiad Burns becyn o 58 o fesurau sydd â'r nod o greu rhwydwaith o ddewisiadau gwahanol o amgylch Casnewydd, gan gynnwys adeiladu 6 gorsaf newydd, 23 milltir o lonydd bysiau cyflym newydd, ac 20 milltir o lonydd beicio newydd. Roedd hefyd yn argymell gwella'r gwasanaethau trên, datblygu'r rhwydweithiau bysiau a sicrhau bod gwahanol ddulliau teithio yn fwy integredig.
Nod y gwaith yw rhoi opsiynau eraill yn lle teithio ar yr M4 ac annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a gwneud mwy o deithio llesol ar draws y rhanbarth.