English icon English
Pickleball -2

Busnes chwaraeon newydd yn llwyddo diolch i Busnes Cymru

Sports start-up is batting for success thanks to Business Wales

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhagor o arian ar gyfer ei chynllun i helpu pobl ddi-waith sy'n wynebu rhwystrau cudd rhag dechrau eu busnes eu hunain

Bydd yr estyniad i'r Grant Rhwystrau rhag Dechrau yn helpu 250 yn rhagor o unigolion di-waith. Mae 1,637 o bobl ddi-waith eisoes wedi cael eu helpu ers lansio'r rhaglen yn 2020.

Mae arolwg diweddar yn dangos bod 78% o'r rheini sy'n cael eu helpu i ddechrau eu busnes eu hunain yn dal i fasnachu ac ar gyfartaledd wedi bod yn rhedeg eu busnesau am ddwy flynedd. Mae hynny ychydig yn fwy na chanran yr holl fusnesau newydd ledled Cymru sydd wedi goroesi ddwy flynedd (74.5%).

Manteisiodd yr entrepreneur o Abertawe, Stephen Baker, ar y grant i’w helpu i drechu diweithdra a lansio busnes chwaraeon unigryw.

Aeth Stephen Frenz ati i lansio Seniors Pickleball a chyflwyno pobl dros 50 oed yn yr ardal i gamp hygyrch sy'n llesol i'r corff a'r meddwl ac sy'n gymdeithasol ac yn hwyl.

Ers lansio'i fusnes hyfforddi ym mis Medi 2022, mae cymuned Frenz Seniors Pickleball wedi tyfu o chwech i 125 o danysgrifwyr rheolaidd. Mae picl-bêl yn debyg i denis, yn yr ystyr bod chwaraewyr yn defnyddio padlau i daro pêl yn ôl ac ymlaen dros rwyd neu fwrdd, mewn gemau sengl neu ddwbl.

Doedd Stephen erioed wedi clywed am bicl-bêl tan iddo symud i UDA yn 2007 a dechrau chwarae'r gêm. Ers hynny ac ar ôl dychwelyd i Gymru, mae Stephen wedi glynu at y gamp fel ffordd o gadw’n egnïol ac o gadw golwg ar ei iechyd.

Cafodd Stephen wybod bod diabetes pobl hŷn arno ar ôl dioddef adwaith awto-imiwnedd yn ei hen weithle ac yn 2016 collodd ei waith. Ac yntau'n ei chael yn anodd cael hyd i swydd arall a oedd yn ei fodloni'n feddyliol ac yn ei helpu gyda’i iechyd, cysylltodd â'i ganolfan gwaith leol am help.

Meddai Stephen: "Digwyddais i sôn mod i'n dwlu ar bicl-bêl wrth fy nghyswllt yn y ganolfan gwaith ac fe ddywedodd wrtha i am gysylltu â Busnes Cymru, a dywedodd y rheini wrtha' i'n syth i wneud cais am y Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes. Defnyddiais yr arian i brynu offer, llogi lleoedd yn Abertawe a'r cyffiniau i gynnal dosbarthiadau ac ennill cymwysterau hyfforddi.

"Gwnaeth y grant hefyd fy helpu i leddfu fy mhryderon ariannol. Heb y grant, ni fyddwn wedi gallu lansio fy musnes fy hun a dianc rhag diweithdra. Alla i ddim bod yn fwy diolchgar i Busnes Cymru am fy helpu i lwyddo fel busnes hunangyflogedig. Yn ogystal â helpu fy iechyd corfforol a meddyliol i, mae'r grant wedi helpu pobl eraill hefyd.

 "Mae un o'n chwaraewyr yn 93 oed ac yn gaeth i gadair olwyn, ond mae'n ysgwyd chwerthin bob tro mae'n sgorio pwynt. Mae'n bleser gwylio pobl hŷn yn chwarae picl-bêl, mae'r manteision corfforol a meddyliol yn ddiddiwedd. Mae'r ffaith fy mod i'n gallu ennill bywoliaeth o'r gamp diolch i Busnes Cymru yn fonws anferth."

Yn ogystal â helpu Stephen i gael cyllid ar gyfer y busnes, gwnaeth y cynghorydd busnesau Graham Harvey helpu Stephen i ddatblygu cynllun busnes yn ystod eu cyfarfodydd un i un a'i gynghori i wrando ar weminarau Busnes Cymru ar bynciau fel cynllunio ariannol ac ymchwil i'r farchnad.

Dywedodd Graham: "Roedd yn bleser gweithio gyda Stephen gan ei fod yn barod i wrando a derbyn y cyngor a'r gefnogaeth yr oedd Busnes Cymru yn gallu eu cynnig iddo. Gwnaeth ei awydd i gefnogi'r gymuned ehangach y mae'n ei gwasanaethu argraff arna' i, a’i ymdrech i wella lles meddyliol a ffitrwydd corfforol ei gleientiaid."

Yn y misoedd nesaf, bydd Stephen yn cydweithio â gwasanaethau cymdeithasol Abertawe i gyflwyno picl-bêl a'i fanteision adfywiol i ysgolion, canolfannau cymunedol a sefydliadau crefyddol.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu estyn y cynllun hwn sydd eisoes wedi helpu cymaint o bobl i fentro i fyd busnes a bod yn economaidd actif.

"Rydym yn benderfynol o greu Cymru decach a mwy llewyrchus, lle mae pobl yn cael eu cefnogi i wireddu eu gwir botensial.

"Mae Cymru yn lle gwych hefyd i ddechrau ac ehangu busnes ac rwy'n falch bod y busnesau newydd rydyn ni wedi'u cefnogi ddwywaith yn fwy tebygol o fod mewn busnes ar ôl pum mlynedd na gweddill y farchnad."

Bydd cyfle i ymgeisio am y grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes tan fis Mawrth 2024. Rhaid i ymgeiswyr fod yn ddi-waith a dros 25 oed i gael eu hystyried. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar:  https://businesswales.gov.wales/cy/grant-rhwystrau-rhag-dechrau-busnes-ar-gyfer-pobl-25-oed-a-hyn