Busnes Cymru – wrthi ers 10 mlynedd yn helpu busnesau yng Nghymru i dyfu
Business Wales – 10 years of supporting business growth in Wales
Ddeng mlynedd ers iddo gael ei lansio, mae Busnes Cymru wedi cefnogi dros 390,000 o entrepreneuriaid a busnesau, wedi helpu i greu dros 19,000 o fusnesau newydd ac wedi rhoi cymorth uniongyrchol i greu bron 47,000 o swyddi yn economi Cymru.
Busnes Cymru yw prif wasanaeth cymorth busnes dwyieithog Llywodraeth Cymru ar gyfer micro-fusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, a darpar entrepreneuriaid o bob oed. Mae Busnes Cymru yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Mae'n rhoi cymorth pwrpasol i'r bobl hynny sydd am ddechrau, cynnal neu dyfu eu busnes, gan wneud hynny drwy gynnig darpariaeth amrywiol sydd ar gael wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ar-lein.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Yn ystod y 10 mlynedd ers iddo gael ei sefydlu, mae Busnes Cymru wedi ennill bri fel brand cryf, gweladwy, hawdd ymwneud ag ef, sy'n cynnig cymorth gwerthfawr i'w entrepreneuriaid a'i fusnesau ym mhob cwr o Gymru. Mae’n rhoi help llaw iddynt nhw gael gafael ar yr wybodaeth, yr arbenigedd a'r cysylltiadau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn sbarduno twf eu busnesau.
"Mae'r ystadegau diweddara’ ’ma, sy'n dangos bod Busnes Cymru wedi helpu i greu bron 47,000 o swyddi a 19,000 o fusnesau yn ystod 10 mlynedd ei fodolaeth, yn tanlinellu pwysigrwydd y gwasanaeth a'r effaith aruthrol mae wedi’i chael ar ein heconomi. Mae wedi helpu i feithrin diwylliant entrepreneuraidd ac wedi ysgogi twf busnesau mewn cymunedau ledled Cymru.
"Ac yn ystod ansicrwydd economaidd y blynyddoedd diwethaf yn sgil Brexit, pandemig Covid a'r argyfwng costau byw sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd, rydyn ni wedi gweld pa mor werthfawr yw gallu Busnes Cymru i addasu er mwyn darparu un gwasanaeth integredig i helpu busnesau Cymru. Yn wir, yn ystod y pandemig, helpodd Busnes Cymru i ddarparu cymorth ariannol i 32,000 o fusnesau o Gymru roedd angen cymorth ychwanegol arnyn nhw.
"Wrth iddo ddathlu’i ben-blwydd yn 10 oed, mae'r gwasanaeth wir wedi bwrw gwreiddiau fel rhan hanfodol a gwerthfawr o’r maes busnes yng Nghymru. Dyna pam rydyn ni’n gwbl ymrwymedig i barhau â'r gwasanaeth hwn ac wedi ymrwymo £10 miliwn ychwanegol y flwyddyn am y 2 flynedd nesaf o leiaf, ar ôl i gyllid yr UE ddod o ben."
Heddiw, bydd Gweinidog yr Economi yn ymweld â Frog Bikes ym Mhont-y-pŵl, a gafodd ei sefydlu yn 2013 hefyd gyda chymorth Busnes Cymru. Nod penodol y cwmni yw dylunio ac adeiladu beiciau ysgafn, fforddiadwy, o ansawdd i blant, gan gynnwys beiciau balans, beiciau pedalau cyntaf i blant, beiciau hybrid ar gyfer ffyrdd a thraciau. Ers y dechrau, maen nhw wedi ennill gwobrau’n fyd-eang a gwobrau’r diwydiant am arloesi a dylunio ac am ffatri arobryn. Mae ganddyn nhw fanwerthwyr a phartneriaethau llewyrchus ledled y byd ac erbyn heddiw, maen nhw’n cyflogi 54 o bobl.
Dywedodd Jerry Lawson, Prif Froga, Frog Bikes: "Ers i ni ystyried agor ein ffatri yng Nghymru am y tro cyntaf, rydym wir wedi gwerthfawrogi'r gefnogaeth rydyn ni wedi'i gael gan Busnes Cymru. Mae hyn wedi cynnwys ein helpu i ddod o hyd i'r safleoedd cywir, cefnogaeth gyda recriwtio a hyfforddi staff, ein helpu i gael mynediad at farchnadoedd allforio newydd a chyllid ar gyfer arloesedd ac effeithlonrwydd gweithgynhyrchu."
Dywedodd Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW), a chadeirydd grŵp Gorchwyl a Gorffen Busnes Cymru: "Cyn i Busnes Cymru gael ei sefydlu, roedd cymorth busnes yn cael ei ystyried yn rhywbeth tameidiog, cymhleth i gael gafael arno, a hefyd yn rhywbeth lle’r oedd cryn amrywiaeth o ran sut roedd yn cael ei weithredu ac i ba raddau roedd yn llwyddo – mae Busnes Cymru wedi cael effaith wirioneddol a chadarnhaol, a gellir priodoli hynny i ymroddiad, proffesiynoldeb, dawn entrepreneuraidd, agwedd ‘gallu gwneud’ a gwaith caled y tîm sy'n gyfrifol am ei waith. Hoffwn i ddiolch a thalu teyrnged i bawb sydd wedi gweithio mor galed yn ystod y 10 mlynedd diwethaf i sicrhau llwyddiant Busnes Cymru – mae wedi gwneud gwaith anhygoel, yn enwedig yn ystod y pandemig."
Dywedodd Ben Cottam, Pennaeth Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru: "Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Busnes Cymru wedi tyfu i fod yn rhan hanfodol a mawr ei pharch o’r dirwedd busnesau bach ac mae’n wasanaeth pwysig sy’n helpu busnesau llai ac entrepreneuriaid yng Nghymru. Fel y gwelon ni yn ystod argyfwng Covid, mae wedi profi hefyd ei fod yn seilwaith amhrisiadwy ac ymatebol wrth iddo helpu busnesau a'r economi i ymdopi yn ystod rhai o'r cyfnodau anodda’ posibl. Wrth inni geisio adfer yr economi yn y tymor byr a thros y blynyddoedd sydd i ddod, rydyn ni’n edrych ’mlaen yn fawr at weithio gyda Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr uchelgais sydd gan entrepreneuriaid Cymru i ddechrau busnesau, i’w datblygu ac i gyflogi'r bobl o'u hamgylch yn cael ei chefnogi. Hoffen ni longyfarch y gwasanaeth am yr hyn mae wedi’i gyflawni dros gyfnod o 10 mlynedd."
Mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth pwrpasol i bobl sydd am ddechrau neu dyfu eu busnesau ac yn gwneud hynny drwy ddarpariaeth amrywiol sydd ar gael wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ar-lein. Mae hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu Llywodraeth Cymru i greu economi gryfach, decach, a mwy gwyrdd, ac mae'n:
- rhan hanfodol o Warant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc, sy'n helpu pobl ifanc i ddatblygu eu syniadau busnes ac yn rhoi cymorth i'w helpu i sefydlu eu busnesau eu hunain neu i fod yn hunangyflogedig.
- cynnig cyngor arbenigol i helpu gweithwyr i brynu busnesau, ynghyd â chymorth pwrpasol sy’n cael ei ariannu'n llawn drwy Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi mwy o gymorth i sicrhau bod cwmnïau o Gymru yn aros yn nwylo’r Cymry
- helpu busnesau i ddatgarboneiddio drwy gynnig ystod eang o gyngor a chefnogaeth ar bolisïau ac arferion gwyrdd ac ar ddefnyddio adnoddau’n effeithlon, gan gynnwys Ymgyrch yr Uchelgais Werdd a'r Adduned Twf Gwyrdd.
Nodyn i'r Dyddiadur
Bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn ymweld â Frog Bikes i nodi 10 mlynedd ers sefydlu Busnes Cymru.
Dyddiad: Dydd Mawrth 31 Ionawr
Amser: 10.00am – 10.40am
Lleoliad: Uned A, Ystad Parc Mamhilad, Pont-y-pŵl, NP4 0H
Bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething; cynrychiolwyr ar ran Frog Bikes, a Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru, ICAEW a chadeirydd grŵp Gorchwyl a Gorffen Busnes Cymru, ar gael ar gyfer cyfweliadau.