English icon English
Jeremy Miles-46

Bwrdd iechyd Hywel Dda yn gwneud gwelliannau o dan arweinyddiaeth newydd

Hywel Dda health board making improvements under new leadership

Mae gwelliannau i amseroedd aros ac arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles wedi cadarnhau y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cael ei isgyfeirio, o lefel pedwar i lefel tri. Daw hyn yn sgil ei arweinyddiaeth well, ei berfformiad ym maes gofal a gynlluniwyd a gwelliannau i'w wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Mae hyn yn golygu y bydd y bwrdd iechyd yn parhau i gael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG i wella ei wasanaethau, ond ni fydd yn cael ei oruchwylio a'i fonitro i'r fath raddau ag o'r blaen.

Fodd bynnag, bydd y bwrdd iechyd yn parhau i fod o dan drefniadau uwchgyfeirio lefel pedwar ar gyfer perfformiad gofal argyfwng a chyllid a chynllunio.

Pan fo pryderon am berfformiad unrhyw un o sefydliadau'r GIG yng Nghymru, gall Llywodraeth Cymru ymyrryd i ddarparu cymorth i wella gwasanaethau a gofal i gleifion.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

 "Mae arweinyddiaeth newydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhoi sefydlogrwydd a chyfeiriad i'r bwrdd, ac ar ôl y gwelliannau yma, rwy'n falch o symud y bwrdd i lawr i lefel tri ar gyfer arweinyddiaeth a llywodraethiant.

"Rwy' eisiau diolch i'r holl staff sy'n gweithio'n galed i wella eu gwasanaethau a'u canlyniadau i'r miloedd o bobl maen nhw'n gofalu amdanyn nhw.

"Er bod y cynnydd yn galonogol, byddwn ni'n parhau i fonitro perfformiad a chanlyniadau'r adrannau brys ac yn gweithio'n agos gyda'r holl fyrddau iechyd i wella perfformiad."

Nodiadau i olygyddion

Notes to editors

The oversight and escalation framework sets out how performance is reviewed, and risk is assessed across the NHS.

There are currently five levels of escalation.

  • Level 1 (routine arrangements) - organisation or service is not in an escalated status.
  • Level 2 (Area of concern) - this is not a formal level of escalation.
  • Level 3 (enhanced monitoring) - Welsh Government will closely monitor, challenge and review progress against the agreed criteria.
  • Level 4 (targeted Intervention) - Welsh Government will take co-ordinated action and direct intervention to support the NHS organisation to drive improvement.
  • Level 5 (special measures) - Welsh Ministers may intervene as set out in the NHS (Wales) Act 2006. This may include providing targeted support, suspending or removing powers and duties from individual or all members of the NHS organisation’s board.

To be considered for de-escalation, an organisation must demonstrate that the de-escalation and sustainability criteria have been consistently met. De-escalation will be to the next level on the intervention scale with reduced oversight and reporting at each stage of de-escalation.