English icon English
Ysgol Bryn Tabor-3

Bwyd iach i ysgolion

Healthy food for schools

Mae'r bwyd y gellir ei ddarparu mewn ysgolion yn newid fel bod modd i bob plentyn yng Nghymru fanteisio ar ddeiet cytbwys yn yr ysgol.

Mae ymgynghoriad wedi'i lansio heddiw i geisio barn ar y cynigion a fydd yn gweld bwydlenni ysgolion cynradd yn cynyddu'r maint o ffrwythau a llysiau a gynigir, gan helpu mwy o blant yng Nghymru i gael eu pum dogn y dydd, a chyfyngu ar bwdinau llawn siwgr, a bwydydd wedi'u ffrio, yn unol â chanllawiau deietegol y DU.

Bydd y cynigion newydd yn sicrhau bod plant yn cael cynnig bwyd a diod sy'n gytbwys o ran maeth, a bod bwyta'n iach yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion, gyda'r nod o wella iechyd, lles a chyrhaeddiad plant.  

Mae'r dystiolaeth yn dangos bod plant, ar gyfartaledd, yn bwyta gormod o siwgr ac nad ydynt yn bwyta'r meintiau a argymhellir o ffrwythau, llysiau a bwydydd grawn cyflawn. Mae hyn yn cyfrannu at broblemau iechyd fel gordewdra ymhlith plant. Ac ar hyn o bryd mae un o bob pedwar o blant oedran dosbarth derbyn yn cael eu categoreiddio yn rhy drwm neu'n ordew.

Mae camau yn cael eu cymryd ar draws Llywodraeth Cymru i wneud y dewis iach yn ddewis hawdd. Mae'r strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach wedi ymrwymo Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o'r rheoliadau ar faeth bwyd ysgolion, sy'n berthnasol i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Gan fod rhaglen cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yng Nghymru bellach wedi'i rhoi ar waith, mae Llywodraeth Cymru am gyflawni'r ymrwymiad hwn nawr, gan ddechrau gydag ysgolion cynradd.  

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Mae maeth da yn hanfodol i helpu pobl ifanc i berfformio ar eu gorau – boed yn yr ystafell ddosbarth, ar y cae, neu wrth fynd ar drywydd eu nodau. Bydd ein newidiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i reolau bwyd ysgolion yn helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant Cymru – ac ar yr un pryd yn cefnogi cynhyrchwyr o Gymru ac yn meithrin cenhedlaeth o unigolion sy'n bwyta'n iach i ddiogelu dyfodol ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol. 

Mae ysgolion a thimau arlwyo ledled Cymru eisoes yn gweithio'n galed i ddarparu prydau maethlon i'n plant a'n pobl ifanc. Rydyn ni am adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes ar waith i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad at fwyd iach. Dyna pam dw i eisiau clywed gan rieni, athrawon, cyflenwyr a phobl ifanc. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn greu safonau bwyd i ysgolion sy'n gweithio i bawb – gan gefnogi iechyd ein plant heddiw ac ar gyfer eu dyfodol."

Dywedodd Rachel Bath, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu'r cynigion hyn ar gyfer ysgolion cynradd. Rydyn ni'n gwybod o'r dystiolaeth y gall safonau bwyd ysgolion effeithio'n gadarnhaol ar iechyd a lles plant pan gânt eu defnyddio ochr yn ochr â dulliau eraill. Mae cryfhau'r Rheoliadau hyn yn gam hanfodol i sicrhau bod bwyd ysgol yn cefnogi arferion bwyta’n iach gydol oes. Rydyn ni'n gwybod bod gwaith i'w wneud i sicrhau bod pob plentyn yn gallu manteisio ar brydau maethlon ochr yn ochr ag addysg bwyd a phrofiadau bwyta cadarnhaol. Mae'r newidiadau hyn nid yn unig yn cefnogi iechyd plant ond hefyd yn cyfrannu at system fwyd ac economi leol fwy cynaliadwy. Drwy barhau i weithio gyda'n gilydd a goruchwylio'r hyn sy'n digwydd, gall bwyd ysgol fod yn sbardun pwerus i iechyd a lles hirdymor yng Nghymru."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Notes

The consultation pdf attachment is not to be published.

The consultation on proposed changes to the Healthy Eating in Schools (Nutritional Standards and Requirements) (Wales) Regulations 2013 will be live on 20th May here

The consultation is open for 10 weeks.

Consultation responses will help inform:

  • New regulations for primary school food and drink
  • New guidance on promoting healthy eating in schools
  • Future plans for improving secondary school food regulations

The Healthy Eating in Schools (Nutritional Standards and Requirements) (Wales) Regulation have not been updated since 2013.

Photos of pupils from Ysgol Bryn Tabor taking part in a healthy eating session.