Bydd coets newydd rhwng gogledd a de Cymru yn torri mwy nag awr oddi ar amseroedd teithio
New coach between the north and south of Wales will cut journey times by over an hour
- Bydd y gwasanaeth coets newydd yn gwella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus rhwng gogledd a de Cymru ac yn lleihau amseroedd teithio o fwy nag awr.
- Bydd y goets rhwng y gogledd a’r de yn gweithredu gwasanaethau rheolaidd bob dydd, gan gysylltu Bangor â Chaerfyrddin.
- Mae'r gwasanaeth yn cefnogi symud oddi wrth deithio mewn car, gan gefnogi trawsnewidiad Cymru i economi carbon isel.
Bydd pobl ledled Cymru yn arbed dros awr ar amseroedd teithio rhwng gogledd a de Cymru pan fydd coets pellter hir newydd yn lansio yr hydref hwn.
Bydd y gwasanaeth coets newydd yn gweithredu gwasanaethau rheolaidd bob dydd gan gysylltu Bangor â Chaerfyrddin i drawsnewid cysylltedd ledled y wlad a gwella mynediad at swyddi, gofal iechyd, addysg, busnesau a hamdden. Disgwylir iddo hefyd gefnogi gwell mynediad i ymwelwyr â Chymru.
Bydd y gwasanaeth yn stopio yng Ngorsaf Reilffordd Bangor, Caernarfon, Gorsaf Reilffordd Porthmadog, Dolgellau (Sgwâr Eldon), Machynlleth, Prifysgol Aberystwyth, Gorsaf Fysiau Aberystwyth, Aberaeron a Gorsaf Reilffordd Caerfyrddin.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper:
"Fe wnaethon ni addo yn ein cynllun 100 diwrnod y byddem yn paratoi i lansio gwasanaeth coets newydd sy'n cysylltu gogledd a de Cymru ac rwy'n falch iawn o gadarnhau bod cynlluniau ar y gweill i gyflwyno'r gwasanaeth hwn yn yr hydref.
"Ers degawdau, nid yw trafnidiaeth gyhoeddus wedi gwasanaethu llawer o gymunedau gwledig yn ddigon da, ond y gwasanaeth coets newydd hwn yw'r cam cyntaf i wella cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru.
"Bydd y gwasanaeth yn cysylltu canolfannau rhanbarthol allweddol, gan redeg ochr yn ochr â gwasanaethau presennol ac yn gwella gwasanaethau presennol gan gynnwys TrawsCymru, y rhwydwaith bysiau gwledig, a Fflecsi i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-ddull integredig ledled Cymru."
Yn ogystal â gwella cysylltedd, bydd y gwasanaeth hefyd yn hwyluso trefniadau teithio ar gyfer twristiaeth gynaliadwy i gyrchfannau gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri, Pen Llŷn a Bae Ceredigion, ac yn cefnogi trawsnewidiad Cymru i economi wyrddach drwy ddarparu dewis amgen, carbon isel, i'r car.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio'r misoedd nesaf i ddatblygu'r gwasanaeth yn unol â'r 'Rhwydwaith T' ehangach – rhwydwaith trafnidiaeth integredig i Gymru.
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Rhanbarthol ac Integreiddio:
"Mae'r gwasanaeth coets newydd hwn yn deillio o lawer iawn o waith gan dimau ar draws Trafnidiaeth Cymru, gan weithio'n agos gyda phartneriaid ac yn tynnu ar fewnwelediad o'n rhaglen Rhwydwaith Gogledd Cymru i ddylunio gwasanaeth sy'n diwallu anghenion cymunedau. Trwy gysylltu trefi a chymunedau allweddol ar hyd arfordir y gorllewin, rydym yn creu cysylltiadau cyflymach, mwy dibynadwy ar gyfer gwaith, addysg a hamdden.
"Mae'r gwasanaeth newydd yn gam allweddol o ran adeiladu'r Rhwydwaith T, gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system drafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig i Gymru, yn cryfhau rhwydwaith TrawsCymru, helpu i ddarparu cynnig aml-ddull mwy cydgysylltiedig a'i gwneud hi'n haws i bobl deithio'n gynaliadwy gyda chysylltiadau di-dor â gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau lleol."
Cyhoeddwyd cyllid ar gyfer y gwasanaeth hwn yn y Gyllideb Atodol Gyntaf yr wythnos diwethaf, ochr yn ochr ag £8m ar gyfer ymestyn y tocyn bws £1 i bob person ifanc rhwng 5 ac 21 oed. Bydd y cyllid hwn yn ymestyn y cynllun am saith mis arall gan ganiatáu i fwy o bobl ifanc gael mynediad at brisiau bysiau rhatach tan 31 Mawrth 2027.