English icon English

'Bydd diogelwch cleifion yn cael ei sicrhau yn ystod y streic'

‘Patient safety will be protected during strike action’

Mae NHS Cymru, Cymdeithas Feddygol Prydain a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i sicrhau diogelwch cleifion yn ystod y streic gan feddygon iau yr wythnos nesaf, meddai'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.

Bydd meddygon iau yn streicio dros dâl am dridiau gan ddechrau ddydd Llun 15 Ionawr, ac mae disgwyl i'r effaith ar wasanaethau fod yn sylweddol.

Fodd bynnag, mae'r Gweinidog Iechyd wedi rhoi sicrwydd i bobl y bydd gofal brys a gofal mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol yn parhau i gael eu darparu yn ystod y cyfnod hwn.

Mae hefyd wedi annog pawb i helpu i leihau'r baich ar y NHS drwy ystyried gwasanaethau iechyd eraill yn lle mynd i'r ysbyty, oni bai bod angen gofal brys arnyn nhw.

Dywedodd Eluned Morgan:

"Rydym yn siomedig bod meddygon iau wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol, ond rydym yn deall cryfder teimladau ymhlith aelodau'r BMA.

"Ry'n ni'n dymuno mynd i'r afael â'u huchelgais i adfer cyflogau, ond mae ein cynnig ar lefel uchaf y cyllid sydd ar gael inni ac yn adlewyrchu'r penderfyniad y daethon ni iddo gyda'r undebau iechyd eraill. Byddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i drosglwyddo'r cyllid angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.

"Mae Llywodraeth y DU wedi methu, dros y 13 mlynedd diwethaf, i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn iawn. Byddai cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2024-25 £3bn yn uwch pe bai wedi tyfu yn unol â'r economi ers 2010. Oherwydd y sioc chwyddiant diweddar, mae ein setliad y flwyddyn nesaf werth hyd at £1.3bn yn llai mewn termau real na'r disgwyl pan gafodd ei osod gyntaf yn 2021.

"Ry'n ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â Chymdeithas Feddygol Prydain a Chyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd, ac ry'n ni'n ddiolchgar iddyn nhw am gydweithio i sicrhau diogelwch cleifion yn ystod y streic.

"Dydyn ni ddim yn disgwyl i weithgareddau nad ydyn nhw'n rhai brys a gweithgareddau dewisol gael eu cynnal yn ystod y cyfnod yma. Y disgwyl yw y bydd gwasanaethau yn debyg i'r rhai sy'n cael eu darparu'n gyffredinol ar Ŵyl Banc.

"Fodd bynnag, os oes gennych angen clinigol i fynd i adran achosion brys, dylech barhau i wneud hynny.

"Ry'n ni'n annog pawb i ystyried yr opsiwn gorau iddyn nhw, gan gynnwys y gwasanaeth 111 ar-lein neu dros y ffôn, neu eu fferyllfa leol."