Bydd gwerthiant safle fferm yn arwain at greu 500 o gartrefi newydd
Farm site sale will lead to the creation of 500 new homes
Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cymeradwyo gwerthu safle Fferm Cosmeston Uchaf, gan wahodd cynigion sydd eu hangen i fodloni safonau byw carbon sero-net newydd a heriol.
Bydd datblygiad preswyl y tir yn golygu y bydd mwy na 500 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, gyda gofyniad i 50% fod yn fforddiadwy i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy erbyn 2026.
Sefydlwyd datblygiad y tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yng Nghynllun Datblygu Lleol Bro Morgannwg a bydd hefyd yn gweld adeiladu ysgol gynradd newydd, mannau agored cyhoeddus, llwybr teithio llesol a chyfleusterau cymunedol.
Bydd y datblygiad yn helpu i gefnogi llesiant cymdeithasol ac amgylcheddol yn y gymuned a bydd angen i’r sawl sy’n cyflwyno cynnig ddangos sut y byddant yn bodloni’r safonau uchaf posibl o ran creu lleoedd, gofod ac ansawdd a hefyd gyflawni cyfran lawer yn uwch o gartrefi fforddiadwy na’r hyn sy’n arferol ar gyfer datblygiadau o’r fath.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: "Mae gan Lywodraeth Cymru rôl ganolog wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni arwain trwy esiampl mewn datblygiadau preswyl.
"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Bro Morgannwg ar y cynigion datblygu ar gyfer Fferm Cosmeston Uchaf er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni'r amcanion yr wyf wedi'u cynllunio o'r blaen i ddarparu mwy o dai amrywiol a buddion cymdeithasol.
"Rydym wedi ymrwymo i greu Cymru wyrddach, gryfach a thecach a byddem yn annog cynigwyr i fod yn arloesol a mynd y tu hwnt i'r amcanion a nodir i greu cartrefi a lleoedd hardd sydd o ansawdd uchel, yn effeithlon o ran ynni, yn garbon isel ac yn gynaliadwy."
Mae’r broses waredu yn cael ei rheoli gan yr ymgynghoriaeth eiddo rhyngwladol, Savills.ar ran Llywodraeth Cymru.
DIWEDD