English icon English
pont menai menai bridge still-2

Bydd Pont Menai’n ailagor ar amser

Menai Suspension Bridge to reopen on schedule

Bydd gwaith i ailagor Pont Menai gyda chyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell yn cael ei gwblhau ar amser.

Bydd y gwaith brys, a ddechreuodd ar 5 Ionawr, yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen 4 wythnos a bydd disgwyl i'r bont ailagor gyda chyfyngiad pwysau erbyn hanner nos (00:01hrs) ar ddydd Iau 2 Chwefror.  

Mae Llywodraeth Cymru ac UK Highways A55 Ltd, ar y cyd â’r cwmnïau peirianneg Spencer Group a COWI, yn parhau i gydweithio'n agos i ddatblygu cynllun ar gyfer gwaith adfer tymor hwy, gan achosi cyn lleied â phosib o darfu, fel y gall Pont Menai ailagor yn llwyr. Mae disgwyl i’r gwaith hwn ddechrau ar ddiwedd yr haf. 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth, Lee Waters;

"Er gwaethaf yr amodau tywydd heriol, rwy'n falch ein bod wedi gallu cwblhau'r gwaith adfer hynod bwysig a chymhleth hwn ar amser.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol ac i bawb y mae cau'r bont wedi effeithio arnynt am eu hamynedd yn ystod y cyfnod yma."