English icon English
RHA Climate Change Minister, Julie James-2

Bydd safon 'feiddgar a blaengar' newydd yn gweld y newidiadau mwyaf i dai cymdeithasol ers dros 20 mlynedd

‘Bold and progressive’ new standard will see the biggest changes to social housing in more than 20 years

Heddiw (dydd Mawrth, 24 Hydref) mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyflwyno Safon Ansawdd Tai newydd i Gymru a fydd yn gweld y newidiadau mwyaf i safonau tai cymdeithasol ers dros 20 mlynedd.

Dywedodd y Gweinidog y bydd y Safon newydd yn disodli'r Safon bresennol i 'adlewyrchu'n well y newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn teimlo ynghylch eu cartrefi'.

Cyflwynwyd y Safon wreiddiol yn 2002, ac ers hynny mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â landlordiaid cymdeithasol, ei phartneriaid cyflawni, wedi buddsoddi biliynau o bunnoedd i wella a chynnal ansawdd cartrefi cymdeithasol ledled Cymru yn sylweddol.

Cynhaliwyd y llynedd a derbyniwyd dros 200 o ymatebion. Cafodd yr atebion eu dadansoddi a'u defnyddio i lunio'r Safon derfynol.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: "Mae hon yn Safon feiddgar a blaengar sy'n gosod targedau uchelgeisiol i wneud gwahaniaeth i ansawdd cyffredinol bywydau pobl. Mae'n codi'r bar ar gyfer tai cymdeithasol ac yn adlewyrchu llais tenantiaid yng Nghymru.

"Bydd y Safon yn mynd i'r afael â datgarboneiddio'r stoc tai cymdeithasol, gan sicrhau bod cartrefi o ansawdd uwch, bod pobl yn gallu fforddio eu gwresogi a'u bod yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif a'r tu hwnt.

"Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i arwain y ffordd o ran datgarboneiddio tai a dysgu sut i uwchraddio tai cymdeithasol mewn modd effeithiol ac effeithlon, mewn ffyrdd sy'n lleihau allyriadau carbon a biliau ynni i denantiaid.

Bydd yr hyn a ddysgir gennyn ni wrth uwchraddio'r 230,000 o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru yn llywio'r ffordd rydyn ni, fel cenedl, yn datgarboneddio'r 1.2 miliwn o gartrefi sydd o dan berchnogaeth breifat yng Nghymru.

Mae'r her sy'n gysylltiedig ag ôl-osod y stoc dai bresennol yn enfawr. Mae gan bob tŷ hanes gwahanol, felly, ein cenhadaeth yw lleihau allyriadau carbon fesul cartref a fesul stryd.

Mae SATC 2023 yn nodi set newydd a heriol o safonau i landlordiaid cymdeithasol eu bodloni.

Mae cyllid gwerth tua £270 miliwn eisoes ar gael ar gyfer tymor y llywodraeth hon drwy'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio i helpu landlordiaid cymdeithasol i fodloni elfennau newydd sy'n ymwneud â Gwres Fforddiadwy a Datgarboneiddio.

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon mae £70 miliwn dangosol wedi cael ei neilltuo i landlordiaid ar sail fformiwla gyllido, ac mae ymrwymiad i neilltuo £70 miliwn arall y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal â chanolbwyntio ar wres fforddiadwy a datgarboneiddio, mae'r Safon hefyd yn ceisio gwella cartrefi mewn amrywiaeth o ffyrdd pwysig eraill; er enghraifft o dan y Safon newydd, dylai fod gorchuddion llawr addas ym mhob ystafell, ardal grisiau a landin lle mae pobl yn byw yn y cartref wrth newid tenant, a materion cyfiawnder cymdeithasol fel cael gwared ar leithder a llwydni, sicrhau mynediad at fand eang a diogelwch adeiladau.

Ychwanegodd y Gweinidog: "Rwy'n hyderus mai dyma'r Safon gywir ar yr adeg gywir – ond fydd gweithredu'r Safon ddim yn hollol didrafferth. 

"Fel llywodraeth byddwn yn parhau i gydweithio gyda'r sector, yn yr un modd ag rydyn ni wedi gwneud wrth ddatblygu'r Safon. Un o'r meysydd allweddol fydd dod o hyd i atebion hirdymor addas o ran ariannu, mewn partneriaethau â landlordiaid cymdeithasol.

Byddai'n hawdd cael ein llethu gan faint yr her sy'n gysylltiedig ag uwchraddio tai cymdeithasol. 

Fodd bynnag, rydym wedi'i wneud o'r blaen a, gyda'n gilydd, gallwn ei wneud eto. 

"Mae angen inni fod yn ymarferol, a chodi i'r her – mae tenantiaid Cymru yn dibynnu arnon ni."

DIWEDD