English icon English
Ynni-4

Bydd Ynni Cymru yn rhyddhau potensial ynni gwyrdd Cymru

Ynni Cymru will unlock Wales’ green energy potential

Cwmni ynni adnewyddadwy llwyddiannus, sy’n eiddo i’r gymuned oedd y lleoliad perffaith i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian lansio Ynni Cymru – cwmni ynni newydd, sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd yng Nghymru.

Mae Ynni Cymru, sydd wedi'i leoli yn M-SParc, Ynys Môn, yn cael ei sefydlu i ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned ledled Cymru fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae gwaith cwmpasu cynnar wedi nodi bod posibilrwydd cryf i Ynni Cymru roi Cymru ar flaen y gad o ran datblygu a chyflawni prosiectau ynni lleol doethach.

Ar yr ymweliad ag Anafon Hydro yn Abergwyngregyn, sy'n cynhyrchu bron i 1GWh o drydan y flwyddyn o'i ganolfan ym Mharc Cenedlaethol Eryri, cadarnhaodd y Gweinidog a'r Aelod Dynodedig fod £750,000 wedi'i roi i 11 prosiect ar ffurf grantiau adnoddau dros y tair blynedd nesaf.

Mae'r rhain yn cynnwys Cwm Arian ar gyfer eu prosiect "Rhyddhau Pŵer Calon Dyfed"; prosiect Dyffryn Ogwen Gynaladwy ym Methesda i gyflenwi pŵer solar ar adeiladau cymunedol a busnes yn Nyffryn Ogwen; Prosiect gwres Tanygrisiau, Ynni Cymunedol Gwrog; a chefnogaeth i brosiect solar Ynni Newydd Cyfyngedig, Bretton Hall.

Meddai’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Gyda lansiad Ynni Cymru rydym ar ein ffordd i fodloni 100% o'n defnydd trydan blynyddol o drydan adnewyddadwy erbyn 2035, ac i barhau i gadw i fyny â'r defnydd ar ôl hynny.

"Fodd bynnag, er mwyn cyrraedd hyn mae angen trawsnewid ein system ynni yn gyflym.

"Nid yw'r dull presennol sy'n seiliedig ar y farchnad o ran y system ynni yn gallu cyflawni datgarboneiddio ar y raddfa na'r cyflymder sy'n angenrheidiol i’r argyfwng hinsawdd ac nid yw wedi rhoi digon o fudd i Gymru.

"Mae defnydd lleol o ynni a gynhyrchir yn lleol yn ffordd effeithiol o gefnogi sero-net a chadw'r budd yn ein cymunedau.

"Bydd Ynni Cymru yn ategu'r gwaith gwych sydd eisoes yn cael ei wneud gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac Ynni Cymunedol Cymru, yn enwedig o ran datblygu a chynyddu effaith asedau ynni adnewyddadwy ledled Cymru.

"Rydym yn arwain wrth lunio'r system ynni i yrru Cymru tuag at gyrraedd ei thargedau Sero Net a chyflawni nodau Llesiant ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus."

Ychwanegodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian:

"Mae Ynni Cymru yn brosiect uchelgeisiol sy'n ceisio rhoi rheolaeth i bobl leol a chymunedau dros adnoddau lleol a mentrau ynni adnewyddadwy. Wrth i ni wynebu heriau niferus o argyfwng hinsawdd a biliau ynni uchel, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy sydd â budd a pherchnogaeth leol fel nod craidd.

"Mae'r ffordd rydym yn cynhyrchu ac yn defnyddio ynni yn rhan hanfodol o gyflawni sero net ac mae sefydlu Ynni Cymru yn ddatblygiad allweddol yn ein huchelgeisiau. Rydym hefyd yn gwybod fod pwy sy'n berchen ar asedau ynni yn hynod bwysig. Bydd buddsoddiad Ynni Cymru wrth ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned yn helpu i ddatgarboneiddio ein cyflenwad ynni gydag ynni gwyrdd cynaliadwy a bydd o fudd uniongyrchol i bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny."

Dechreuodd Prosiect Hydro Anafon sy’n werth £1.2 miliwn yn 2010 a dechreuodd gynhyrchu ym mis Rhagfyr 2015. Fe'i hariannwyd gan grantiau, cyfranddaliadau cymunedol a benthyciad gan Fanc Elusennol.

Mae Ynni Anafon Energy Cyf. sy'n gweithredu Anafon Hydro yn gwmni budd cymunedol sy'n cael ei redeg gan wyth cyfarwyddwr gwirfoddol o gymunedau Abergwyngregyn a Llanfairfechan.

Hyd yma, mae wedi cynhyrchu 7.5 GWh o drydan - digon i gyflenwi 1,900 o dai am flwyddyn.

Dywedodd Gavin Gatehouse, Cadeirydd, Ynni Anafon Energy Cyf: "Mae ad-drefnu'r grid trydan i ganiatáu i ddefnyddwyr domestig a busnes lleol gael mynediad at drydan a gynhyrchir yn lleol y potensial i chwyldroi cefnogaeth y cyhoedd i brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol presennol a newydd, ac i ymgysylltu â hwy.  Rydyn ni’n croesawu lansio Ynni Cymru fel cam sylweddol tuag at gyflawni'r nod hwn."