English icon English
Health Minister booster-2

Byddin brechu Cymru yn tyfu wrth i’r lluoedd arfog, meddygon teulu a fferyllfeydd ymrwymo i gefnogi

Wales’ booster army grows as military, GPs and pharmacies commit support

Mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi diolch i'r miloedd o staff a gwirfoddolwyr ychwanegol y GIG sy'n llwyddo yn rhaglen atgyfnerthu Covid-19 yng Nghymru.

Ochr yn ochr â staff ymroddedig sy'n gweithio yn y canolfannau brechu torfol, bydd fferyllfeydd, meddygon teulu a phersonél y fyddin hefyd yn cefnogi ymdrechion i gyflwyno'r brechlyn atgyfnerthu yn gyflym.

Mae’r rhaglen brechiadau atgyfnerthu eisoes wedi cynyddu mewn cyflymder ac mae’n parhau i wneud hynny. Mae 1.4m o ddosau atgyfnerthu wedi cael eu rhoi yn barod, sef bron i hanner yr holl unigolion hynny sy'n 12 oed neu’n hŷn.

Yr wythnos hon, cyflwynwyd 53,000 o frechlynnau mewn un diwrnod - y nifer uchaf ers lansio'r rhaglen ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Yr wythnos ddiwethaf, gosododd y Gweinidog Iechyd darged i wahodd pob oedolyn cymwys i gael cynnig brechiad atgyfnerthu erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd llawer o bobl yn dechrau derbyn neges destun oddi wrth eu bwrdd iechyd yn eu gwahodd i apwyntiad ar gyfer brechiad atgyfnerthu. Mae pobl yn cael eu cynghori i gadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar wefan eu bwrdd iechyd lleol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mae practisau meddygon teulu ledled Cymru yn ymateb i’r her unwaith eto er mwyn cefnogi'r rhaglen frechu.

Bydd practisau ar agor yn y boreau yn ôl yr arfer, ond bydd llawer ohonynt yn awr yn cynnal clinigau frechu yn y prynhawn a bydd hefyd yn cynnal clinigau gyda'r nos ac ar benwythnosau er mwyn rhoi brechiad atgyfnerthu i gynifer o bobl ag sy’n bosibl cyn gynted â phosibl.

Bydd meddygon teulu yn dal i ddarparu gofal hanfodol ac yn cydbwyso eu llwyth gwaith er mwyn sicrhau bod y cleifion hynny sydd ag anghenion brys yn dal i gael blaenoriaeth.

Gan gadw mewn cof bod meddygfeydd yn helpu gyda’r gwaith o roi brechiadau atgyfnerthu, mae'n bwysig bod pobl yn cael y gofal iawn yn y lle iawn ac ar yr amser iawn y gaeaf hwn. Gall pobl ddefnyddio gwefan 111.wales.nhs.uk i'n helpu ni i’ch helpu chi ac i ddod o hyd i'r gwasanaeth cywir.

Mae rhai fferyllfeydd hefyd wedi ymrwymo i gefnogi’r dasg o roi brechiadau atgyfnerthu i bobl ym mhob cwr o Gymru.

Mae'r rhaglen frechu hefyd yn croesawu diddordeb gan ddarpar wirfoddolwyr a hoffai ymuno yn yr ymdrech enfawr i frechu Cymru. Gall pobl ddysgu mwy am wirfoddoli drwy anfon e-bost i’w bwrdd iechyd lleol drwy wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi neilltuo 98 o bersonél i gefnogi’r rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID-19 yng Nghymru. Bydd y personél wedi eu rhannu yn 14 o dimau o frechwyr a fydd yn darparu cymorth i gynyddu capasiti pan fydd cynnydd mawr yn y galw.

Soniodd y Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd am bwysigrwydd cyflwyno'r brechiad atgyfnerthu yn gyflym wrth i'r amrywiolyn newydd Omicron ddod i'r amlwg. Mae Omicron yn ffurf o'r feirws COVID-19 sy’n symud yn gyflym iawn, ac mae’n trosglwyddo’n hawdd o berson i berson.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Unwaith eto, bydd ein Gwasanaeth Iechyd, y lluoedd arfog a gwirfoddolwyr ymroddedig yn gwneud popeth posibl i'n diogelu rhag COVID-19. Mae'r amrywiolyn Omicron yn symud yn gyflym ac felly mae angen i ni sicrhau bod y brechiad atgyfnerthu yn cael ei gyflwyno'n gyflym. Dim ond drwy ymroddiad pawb sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r brechlyn y gallwn ni gyflawni hyn – mae eu hymrwymiad parhaus nhw’n helpu i Ddiogelu Cymru. Hoffwn i ddiolch i bob un am y rôl y maen nhw’n ei chwarae yn Nhîm Cymru.

Gyda chymaint o ymdrech i gyflymu apwyntiadau ar gyfer brechiadau atgyfnerthu, gofynnaf ichi eu cefnogi nhw drwy fod yn amyneddgar a gwneud yn siŵr eich bod chi’n derbyn y cynnig pan fyddwch yn cael eich gwahodd. Rhowch flaenoriaeth i gael eich brechiad atgyfnerthu. O ran y rheini nad ydyn nhw wedi cael eu dos cyntaf a’u hail ddos o'r brechlyn, rwy’n eich cymell chi i ddiogelu eich hunain. Bydd gan wefan eich bwrdd iechyd lleol yr holl fanylion angenrheidiol."