English icon English
Money-7

“Byddwn yn sicrhau bod pob punt sy’n cael ei buddsoddi yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf” – Y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans

“We will ensure every pound invested makes the greatest positive impact.” – Finance Minister Rebecca Evans

Bydd dadl yn cael ei chynnal yn y Senedd heddiw [dydd Mawrth 7 Chwefror] ar Gyllideb Ddrafft Cymru, wrth i chwyddiant uchel barhau i roi pwysau ariannol ar aelwydydd, busnesau a’n gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad.

Gan siarad cyn y ddadl heddiw, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

“Mae ein Cyllideb Ddrafft yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a’n dinasyddion mwyaf agored i niwed, yn wyneb storm berffaith o bwysau ariannol parhaus.

“Ein nod yw sicrhau bod yr holl adnoddau sydd ar gael inni yn cael yr effaith fwyaf posib’, er gwaetha’r cyfnod anodd yr ydyn ni ynddo. Mae hyn yn golygu cadw cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr yn sgil yr argyfwng costau byw parhaus a’r angen i barhau i ysgogi newid mwy hirdymor a chreu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.”

Mae Cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth hyd at £3 biliwn yn llai dros gyfnod tair blynedd yr adolygiad o wariant na phan y’i cyhoeddwyd yn wreiddiol, gyda Chyllideb Ddrafft 2023-24 yn werth hyd at £1 biliwn yn llai. Mae Cymru hefyd yn wynebu diffyg o £1.1 biliwn mewn cyllid o ganlyniad i drefniadau cyllido ôl-UE Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Parhaodd y Gweinidog:

“Rydyn ni wedi gwneud penderfyniadau anodd iawn, ond byddwn yn sicrhau bod pob punt sy’n cael ei buddsoddi yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf.

“Rydyn ni wedi ailffocysu ein cyllid tuag at ein tair prif flaenoriaeth ar gyfer 2023-24: diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen a’n huchelgeisiau at y dyfodol, parhau i roi cymorth i’r rhai y mae’r argyfwng costau byw yn effeithio fwyaf arnyn nhw a chefnogi ein heconomi drwy gyfnodau pan fo’n agos at fod mewn dirwasgiad.”

Ddydd Gwener diwethaf cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynnig cyflog gwell i undebau llafur, gan arwain at ohirio gweithredu diwydiannol ar draws y rhan fwyaf o’r Gwasanaeth Iechyd.

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Rwy’n cydnabod yr heriau sy’n parhau gyda chyflogau’r sector cyhoeddus ac rydyn ni’n dal i weithio’n agos gydag undebau i ganfod ateb i anghydfodau cyflog. Rydyn ni’n llwyr ddeall pa mor gryf yw teimladau’r gweithlu.

“Byddwn ni’n parhau i wneud yr hyn y gallwn ni gyda’r adnoddau sydd gennym, er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i wrthod codi cyflogau gweithwyr diwyd y sector cyhoeddus. Bydd Cyllideb y Gwanwyn ym mis Mawrth yn gyfle arall i’r Canghellor unioni hyn, ac rydyn ni’n galw arno eto i weithredu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus.”

Mae Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn dyrannu £165 miliwn pellach i GIG Cymru i helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen yn ogystal ag £18.8 miliwn ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol, sy’n darparu taliadau arian parod hanfodol i bobl mewn argyfwng yn sgil caledi ariannol.

Mae £227 miliwn ychwanegol hefyd yn cael ei ddarparu i lywodraeth leol i helpu i ddiogelu’r gwasanaethau a ddarperir gan gynghorau, megis ysgolion a gofal cymdeithasol. Mae’r cyllid hwn hefyd yn helpu i ddarparu pecyn cymorth busnes, gwerth £460 miliwn dros ddwy flynedd, sy’n darparu rhyddhad ardrethi o 75% ac yn sicrhau na fydd chwyddiant yn cael effaith ar swm yr ardrethi y mae busnesau’n ei dalu.

Nodiadau i olygyddion