English icon English

Cadeirydd ac aelod newydd wedi cael eu penodi i Fwrdd Gyrfa Cymru

New Chair and member appointed to Board of Careers Wales

Mae Erica Cassin wedi cael ei phenodi'n Gadeirydd newydd Bwrdd Gyrfa Cymru, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw.

Mae'r Gweinidog hefyd wedi penodi James Harvey yn aelod o'r Bwrdd.

Mae'r ddau benodiad am gyfnod o dair blynedd, yn dechrau ar 1 Chwefror 2022.

Mae Dewis Gyrfa, is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd ar yrfaoedd – yn ddwyieithog ac ar gyfer pobl o bob oedran.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae rôl Bwrdd Gyrfa Cymru yn bwysig iawn, mae ganddo rôl allweddol o ran cyflawni cylch gwaith CCDG a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael yr effaith fwyaf posibl. Mae gan Gyrfa Cymru rôl hollbwysig o ran darparu mynediad at gyngor ac arweiniad a helpu unigolion i gael swyddi o ansawdd da.

"Mae’n dda iawn gen i groesawu ein haelodau newydd i Fwrdd Gyrfa Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw."

Mae Cadeirydd Dewis Gyrfa yn derbyn tâl o £337 y dydd, yn seiliedig ar uchafswm o 40 diwrnod y flwyddyn. Rôl wirfoddol, ddi-dal yw bod yn Aelod o Fwrdd Gyrfa Cymru, gydag ymrwymiad o ddeg diwrnod y flwyddyn o leiaf.

Mae pob penodiad wedi cael ei wneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol.  Yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae'n ofynnol i weithgareddau gwleidyddol y rhai a benodir (os o gwbl) gael eu cyhoeddi.  Nid yw'r ddau a benodwyd wedi datgan unrhyw weithgareddau gwleidyddol.