English icon English

Cadeirydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn cael ei ailbenodi i barhau i gyflawni yn wyneb newid hinsawdd

Chair of the Flood and Coastal Erosion Committee reappointed to continue delivering in the face of climate change

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James wedi cyhoeddi heddiw fod Cadeirydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydol Arfordirol, Martin Buckle, wedi cael ei ailbenodi am dair blynedd arall.

Cafodd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol ei sefydlu yn 2017. Mae’n darparu cyngor ar bob agwedd ar reoli llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, ac mae’n cefnogi Gweinidogion Cymru a phob awdurdod rheoli risg yng Nghymru.

Yn dilyn cyfnod llwyddiannus, yn ystod adeg hynod heriol, mae Cadeirydd y Pwyllgor, Martin Buckle, wedi adeiladu perthynas weithio gref ag aelodau’r Pwyllgor a llu o randdeiliaid ehangach.

Yn ystod ei dymor yn y swydd, mae Mr Buckle wedi sefydlu dau is-bwyllgor i ganolbwyntio ar welliannau penodol, sy’n adlewyrchu i awydd i reoli risg llifogydd ac erydu arfordirol yn unol â’r cyfeiriad a bennir gan Weinidogion Cymru.

Felly roedd aelodau’r Pwyllgor yn canmol ei waith yn unfryd, ac mae wedi cael ei ailbenodi i wasanaethu tan fis Awst 2025.  

Mae tystiolaeth o lefel anhygoel y gwaith sy’n cael ei wneud i’w gweld yn y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol, a hefyd drwy fonitro a chyflawni cynllun gwaith y Pwyllgor.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Wrth i’r hinsawdd newid, rydyn ni’n delio â thywydd sy’n gynyddol anodd ei ragweld drwy gydol y flwyddyn, ac mae hyn yn cynyddu’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol.

“O ystyried y bygythiad hwn, rwyf wrth fy mod bod Martin Buckle, gyda’i wybodaeth a’i arbenigedd, wedi cytuno i gadeirio’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

“Drwy’r gwaith pwysig a gynhaliwyd yn ystod ei dymor blaenorol, mae wedi dangos ei allu i gyflawni blaenoriaethau fel lleihau’r risg i gartrefi a busnesau yn wyneb llifogydd mwy rheolaidd a mwy difrifol, lefelau môr sy’n codi ac erydu cyflymach ar yr arfordir.”