Cadw yn cadarnhau’r bwriad i restru Neuadd Dewi Sant Caerdydd
Cadw confirms intention to list Cardiff’s St David’s Hall
Mae Cadw wedi cyhoeddi cynnig i restru Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, yn adeilad o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig.
Mae ymgynghoriad ar y posibilrwydd o restru bellach yn mynd rhagddo.
Agorwyd y neuadd yn 1983, ac mae’n un o'r adeiladau ieuengaf i gael eu cynnig i'w rhestru yng Nghymru. Fe’i hadeiladwyd rhwng 1978 a 1982 ac roedd yn un o'r neuaddau cyngerdd cyntaf ar raddfa fawr i gael eu hadeiladu y tu allan i Lundain ers yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn gynllun arloesol ar gyfer neuadd gyngerdd, gyda'i siâp polygonaidd a'i seddi wedi'u trefnu mewn terasau o amgylch y llwyfan yn cyfrannu at ei phriodweddau acwstig o fri rhyngwladol.
Mae gan yr adeilad bresenoldeb cryf yn ninaswedd Caerdydd, gyda’i ffurfiau pensaernïol mynegiannol, gan hefyd fod yn sensitif i'w gyd-destun yng nghanol y ddinas hanesyddol.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:
“fe fyddai rhestru'n cydnabod pwysigrwydd Neuadd Dewi Sant i Gymru. Mae’n cydnabod ei diddordeb pensaernïol arbennig fel neuadd gyngerdd arloesol, a'i diddordeb hanesyddol arbennig fel adeilad pwysig yn y gwaith o ailddatblygu Caerdydd wedi'r rhyfel sy'n gysylltiedig â statws y ddinas yn brifddinas Cymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: “Rydym wedi bod yn trafod Neuadd Dewi Sant â Cadw ers misoedd lawer, ac rydym yn croesawu’r newyddion bod Cadw’n ymgynghori ar ddulliau o ddiogelu’r Neuadd – adeilad hanesyddol sy’n bwysig iawn i lawer o bobl. Mae Neuadd Dewi Sant wedi bod yn ganolbwynt ar gyfer digwyddiadau cerddorol a chelfyddydol ein dinas ers deugain o flynyddoedd ac mae’r Cyngor wrthi’n cynnal proses a fydd yn diogelu ei dyfodol, gan fynd i’r afael â’r holl waith cynnal a chadw y mae angen ei wneud er mwyn diogelu’r adeilad.
“Rydym yn parhau’n ymrwymedig i ddiogelu dyfodol y Neuadd gan warchod ei rhagoriaeth acwstig. Gyda chymorth arbenigol Cadw gallwn sicrhau bod ein cynlluniau yn gwbl briodol er mwyn diogelu’r Neuadd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Os caiff y Neuadd ei rhestru credwn y bydd nodweddion pensaernïol a hanes y Neuadd yn ennill y gydnabyddiaeth haeddiannol. Byddai hyn yn gam positif ar gyfer y ddinas a fydd yn cyd-fynd â chynlluniau’r Cyngor ar gyfer y Neuadd, gan helpu i sicrhau bod Neuadd Dewi Sant yn parhau’n ganolbwynt diwylliannol uchel ei barch am ddegawdau eto."
Mae'r ymgynghoriad statudol gyda’r perchennog, y meddiannydd a’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer y posibilrwydd o rhestru Neuadd Dewi Sant bellach wedi dechrau, a’r bwriad yw rhestru'r adeilad ar ôl y cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod.
Rhoddwyd Gwarchodaeth Interim i'r adeiladedd hwn o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Mae'n drosedd difrodi'r adeiladedd hwn neu ei newid heb ganiatâd adeilad rhestredig.