English icon English

Cam pwysig ymlaen i ddiogelwch tomennydd glo

Important step forward for coal tip safety

Heddiw, mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi ymateb manwl Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Reoleiddio Diogelwch Tomennydd Glo yng Nghymru. 

Yn 2020, fe ofynnodd Gweinidogion Cymru i Gomisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr gynnal adolygiad manwl o'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud â diogelwch tomennydd glo yng Nghymru.   

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad Comisiwn y Gyfraith a gyhoeddwyd heddiw wedi defnyddio elfennau o ymgynghoriad y Papur Gwyn a lansiwyd yr haf diwethaf, a’r gwaith o dreialu cydrannau allweddol o'r drefn arfaethedig, gan weithio'n agos gyda'r Awdurdod Glo, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.   

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: "Rwy'n croesawu adolygiad Comisiwn y Gyfraith a oedd yn cadarnhau yr angen am fframwaith modern.   

 "Mae canlyniad yr adolygiad yn helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu fframwaith modern, addas i'r diben a fydd o fudd i domennydd sborion segur Cymru yr ydym wedi ymrwymo iddynt yn y Rhaglen Lywodraethu.  

"Ar ran Llywodraeth Cymru, hoffwn ddiolch i Gomisiwn y Gyfraith am ei adroddiad manwl a'i gefnogaeth barhaus i ddarparu'r maes polisi pwysig hwn.   

“Rwyf hefyd yn ddiolchgar i bawb sydd wedi ymgysylltu â Chomisiwn y Gyfraith a  Llywodraeth Cymru i helpu i wella ein dealltwriaeth o domennydd sborion segur, y risgiau cysylltiedig ac i helpu i lunio deddfwriaeth newydd ar gyfer lleihau risgiau diogelwch i’r cyhoedd yn y dyfodol.”    

Nodiadau i olygyddion

Gall aelodau'r cyhoedd adrodd am unrhyw bryderon ynghylch y tomennydd glo neu gael cyngor diogelwch gan linell gymorth yr Awdurdod Glo ar 0800 021 9230 neu drwy tips@coal.gov.uk.  

Written Statement: Welsh Government Detailed Response to the Law Commission’s Report on Coal Tip Safety in Wales (22 March 2023) | GOV.WALES