Camau Llywodraeth Cymru yn datrys y bygythiad i gyflenwad pŵer Parc Ynni Baglan
Welsh Government action resolves Baglan Energy Park power cut threat
- Roedd cwsmeriaid Parc Ynni Baglan yn wynebu colli eu cyflenwad trydan pan gafodd cwmni rhwydwaith gwifrau preifat ei ddiddymu’n orfodol.
- Lansiodd Llywodraeth Cymru gamau cyfreithiol i atal Derbynnydd Swyddogol Llywodraeth y DU rhag diffodd y cyflenwad pŵer a buddsoddi dros £4m i adeiladu rhwydweithiau trydan newydd.
- Mae ymyrraeth yn diogelu busnesau a fyddai wedi cael eu heffeithio gan golli pŵer, a allai beryglu hyd at 1,200 o swyddi lleol, a'r amgylchedd lleol oherwydd y perygl o lifogydd.
Mae busnesau a sefydliadau eraill mewn parc ynni yng Nghastell-nedd Port Talbot a oedd yn wynebu colli eu cyflenwad trydan ar ôl i rwydwaith pŵer preifat gael ei ddiddymu yn cael eu cysylltu'n llwyddiannus â grid pŵer sydd newydd ei osod yn dilyn ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.
Gwnaeth Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething ymweld â Pharc Ynni Baglan i gwrdd â busnesau sydd wedi wynebu mwy na blwyddyn o ansicrwydd ynghylch eu cyflenwad ynni.
Yn flaenorol, roedd busnesau ar Barc Ynni Baglan yn cael eu cyflenwad trydan drwy rwydwaith gwifrau preifat o orsaf bŵer nwy ar y safle. Ym mis Mawrth 2021, cafodd y cwmni a oedd yn berchen ar y rhwydwaith gwifrau preifat ei ddiddymu'n orfodol.
Arweiniodd hyn at weithrediadau'r cwmni, gan gynnwys y rhwydwaith gwifrau preifat, yn dod yn gyfrifoldeb Gwasanaeth Ansolfedd Llywodraeth y DU, a gafodd y dasg o ddirwyn y gweithrediadau i ben.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid a sefydliadau yr effeithir arnynt ers dros flwyddyn i atal a lleihau'r effaith a'r tarfu ar gyflenwad pŵer i sefydliadau sy'n dibynnu ar y rhwydwaith gwifrau preifat.
Mae hyn wedi cynnwys cydweithio'n agos â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, Dŵr Cymru, Llywodraeth y DU, OFGEM, y Gwasanaeth Ansolfedd, y Derbynnydd Swyddogol, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Western Power Distribution i geisio dod o hyd i ateb i'r mater heriol hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £4m i gefnogi Western Power Distribution, fel gweithredwr y rhwydwaith dosbarthu trwyddedig lleol, i ddylunio ac adeiladu rhwydweithiau newydd yn gyflym. Mae'r buddsoddiad hwn wedi caniatáu i Western Power gyflymu'r broses o adeiladu rhwydwaith newydd – a fyddai wedi cymryd rhwng 18 mis a dwy flynedd i'w adeiladu yn wreiddiol. Mae'r buddsoddiad hefyd wedi lleihau'r costau sylweddol y byddai busnesau yr effeithir arnynt wedi gorfod eu talu i gysylltu â'r rhwydwaith newydd.
Yn ogystal â chymorth ariannol, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ymarferol i fusnesau. Roedd hyn yn cynnwys eu helpu i fapio a nodi eu gofynion galw mwyaf, gan lywio dyluniad y rhwydwaith trydanol newydd.
Ar ddiwedd 2021, cyhoeddodd Derbynnydd Swyddogol Llywodraeth y DU y byddai'n cau'r rhwydwaith gwifrau preifat yng nghanol mis Ionawr 2022 - fisoedd cyn y dyddiad y trefnwyd i sefydliadau gael eu cysylltu â'r rhwydwaith newydd.
Byddai'r cam hwn wedi golygu bod yn rhaid i fusnesau, gwasanaethau a seilwaith hanfodol ar y parc bontio'r bwlch yn y cyflenwad ynni gyda generaduron diesel neu nwy, sy'n ddrutach, yn llai gwydn ac sydd â'r potensial i effeithio'n sylweddol ar ansawdd aer yn yr ardal leol. Roedd risg gwirioneddol y byddai pŵer diesel yn methu mewn storm gyda chanlyniadau trychinebus posibl.
Arweiniodd Llywodraeth Cymru gamau i atal hyn. Ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Dŵr Cymru a Sofidel, gwnaethom gychwyn achos cyfreithiol i geisio atal Derbynnydd Swyddogol Llywodraeth y DU rhag terfynu’r rhwydwaith gwifrau preifat nes i rwydwaith trydanol hirdymor newydd gael ei adeiladu.
Mae'r cysylltiadau trydan newydd - sy'n cael eu pweru'n uniongyrchol drwy'r Grid Cenedlaethol - bellach wedi'u cwblhau, gyda'r rhan fwyaf o gwsmeriaid wedi'u cysylltu â'r rhwydwaith newydd erbyn hyn.
Mae hyn yn golygu bod tarfu posibl ar gwsmeriaid Parc Ynni Baglan wedi'i leihau'n llwyddiannus.
Mae'r ymyrraeth hon wedi helpu i ddiogelu busnesau a fyddai wedi cael eu heffeithio gan golli pŵer, a allai beryglu hyd at 1,200 o swyddi lleol, ac mae wedi atal llifogydd drwy gynnal pŵer i orsafoedd pwmpio dŵr llifogydd.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Rwy'n falch o fod wedi cael y cyfle i ymweld â Pharc Ynni Baglan i gwrdd â rhai o'r busnesau yr effeithiwyd arnynt gan fwy na blwyddyn o ansicrwydd ynghylch eu cyflenwad ynni. Nid oes unrhyw amheuaeth bod hwn wedi bod yn gyfnod ansicr iawn ac yn llawn straen iddynt.
“Pan wrthododd Llywodraeth y DU weithredu, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymyrryd. Pe na baem wedi gweithredu bryd hynny, gallai niwed hirdymor difrifol fod wedi'i achosi.
“Mae'r camau rydym wedi'u cymryd wedi golygu cost sylweddol i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rwy’n hyderus fod defnydd da wedi’i wneud o’r amser a dreuliwyd a’r arian a wariwyd. Rydym wedi llwyddo i osgoi'r risg o golli swyddi ar raddfa fawr, llifogydd a llygredd amgylcheddol posibl.
“Mae hwn wedi bod yn gyfnod hynod o rwystredig. Mae'n syfrdanol bod Llywodraeth y DU wedi gwrthwynebu ein camau gweithredu yn y llysoedd i ddiogelu swyddi, yr amgylchedd, ac iechyd degau o filoedd o bobl. Drwy gymryd y camau hyn, fe wnaeth Llywodraeth Cymru sefyll dros bobl Cymru. Dyma enghraifft wych arall o ddatganoli ar waith.”