English icon English

Ymyrraeth gynnar yn allweddol i fynd i'r afael â phresenoldeb

Early intervention key to tackling attendance

Heddiw, mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi canllawiau newydd i helpu ysgolion i weithio gyda theuluoedd ac asiantaethau perthnasol i sicrhau bod dysgwyr yn mynychu'r ysgol.

Dywedodd Jeremy Miles: "Ers y pandemig, mae gormod o bobl ifanc yn colli allan ar amser amhrisiadwy yn yr ysgol. Gall hyn effeithio ar eu lles, eu sgiliau cymdeithasol a'u haddysg. Does dim amheuaeth bod ein system addysg yn dal i wella ar ôl effaith y pandemig. Mae ysgolion wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi dysgwyr yn ôl i'r ystafell ddosbarth, ond mae hwn yn argyfwng sydd angen dull gweithredu cenedlaethol. Dyma fy mhrif flaenoriaeth."

Mae adnabod ac atal absenoldebau yn gynnar yn hanfodol. Bydd Llywodraeth Cymru yn newid y diffiniad ystadegol o absenoldeb parhaus o golli 20% o sesiynau i 10% o sesiynau. Mae absenoldeb yn aml yn symptom o broblem sylfaenol - y cynharaf y gall ysgolion ei adnabod, y cynharaf y gallant gefnogi'r dysgwr a sicrhau eu bod yn dod i’r ysgol.

Yn aml, mae materion presenoldeb yn symptom o achos sylfaenol ar wahân i iechyd corfforol, fel lles neu broblemau iechyd meddwl. I rai, gall fod oherwydd ffactorau rhyng-gysylltiedig. Pan fydd hyn yn digwydd, mae teuluoedd angen help gan asiantaethau arbenigol a gwasanaethau ehangach. Mae'r canllawiau hyn yn tynnu sylw at yr angen i ysgolion weithio gyda'r asiantaethau priodol i sicrhau bod dysgwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae meithrin perthynas dda gyda theuluoedd ac asiantaethau cymorth yn allweddol. Un ysgol sydd wedi gweithredu i wella presenoldeb yw Ysgol Uwchradd Pontypridd. Dadansoddodd staff ddata a chanfod bod presenoldeb yn llawer gwaeth ymlith dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, yn ogystal â dysgwyr nad oeddent yn ymgysylltu'n dda â gwaith ysgol yn ystod y cyfnod clo. Mae’r ysgol wedi darparu cymorth ychwanegol i ddisgyblion lle mae pryder sylweddol am eu presenoldeb, gan gynnwys mynediad at weithwyr ieuenctid a chwnselwyr, ac wedi cyflwyno ystafell arbennig ar gyfer dysgwyr sy'n osgoi'r ysgol ar sail emosiynol.

Bydd presenoldeb yn gwella os yw dysgwyr am ddod i'r ysgol ac yn gweld dysgu a gweithgareddau yn ddiddorol a pherthnasol. Mae'r canllawiau newydd yn canolbwyntio ar y dysgwyr, gan bwysleisio pwysigrwydd ceisio barn plant a rhieni ar ddatblygu a gweithredu polisïau ysgolion. Mae cael rhieni i gymryd rhan hefyd yn rhan o ddull Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru, lle mae ysgolion yn cefnogi anghenion dysgwyr, teuluoedd a'u cymuned ehangach.

Mae'r canllawiau hefyd yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddirwyon, y dylid eu defnyddio fel dewis olaf yn unig ar ôl i'r holl opsiynau eraill gael eu disbyddu. Dylid rhoi rhybudd yn y lle cyntaf. Dylai ysgolion hefyd ystyried a fydd dirwy yn effeithiol wrth gael plentyn yn ôl i'r ysgol.

Dywedodd Jeremy Miles: "Bydd y canllawiau newydd hyn yn helpu ysgolion i fynd i'r afael â'r mater cenedlaethol hwn. Sicrhau bod plant yn ôl yn yr ystafell ddosbarth yw ein prif flaenoriaeth.

“Drwy weithio gyda'n gilydd gallwn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial."