English icon English

Canlyniadau ar gyfer dŵr ymdrochi yng Nghymru yn cyrraedd y brrrig, gyda chydymffurfedd o 99% wedi’i gyflawni yn 2022

Brrrilliant results for Welsh bathing water quality with 99% compliance reached in 2022

Unwaith eto, mae’r canlyniadau a gyhoeddwyd ar gyfer safonau ansawdd dŵr ymdrochi yng Nghymru yn rhagorol, gyda chydymffurfedd o 99% wedi’i gyflawni yn 2022.

Ar y tro cyntaf iddynt gael eu cynnwys, aeth traeth Penarth a thraeth Cwm Colhuw yn syth i’r categori gorau. Cyflwynwyd cais Penarth gan James Tennet, trigolyn lleol a ‘nofiwr gwyllt’ brwd.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru’n atgoffa’r cyhoedd y gall unrhyw un gyflwyno cais ar gyfer y man gorau i nofio’n lleol i’w ystyried fel dŵr ymdrochi dynodedig, sy’n golygu y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn casglu a dadansoddi samplau dŵr o’r man perthnasol rhwng mis Mai a mis Medi. Drwy sicrhau bod y ceisiadau’n agored i bawb, gobaith Llywodraeth Cymru yw cefnogi’r twf sylweddol ym mhoblogrwydd nofio mewn dŵr oer, sy’n sicr yn fuddiol i iechyd meddwl a chorfforol pobl.

Wedi’u categoreiddio naill ai’n ‘Rhagorol’, ‘Da’, ‘Digonol’ neu ‘Gwael’, llwyddodd 85 o’r 106 o ddyfroedd ymdrochi a aseswyd ledled Cymru i gyflawni’r radd orau. Mae hynny’n golygu y gall pob un o’r 22 o draethau sydd wedi ennill gwobr y Faner Las gyflwyno cais i gadw ei statws ar gyfer tymor ymdrochi 2023. Cyflawnodd traethau Aberporth, Llanddona a Nolton Haven statws ‘Rhagorol’ hefyd, sy’n welliant o’i gymharu â chanlyniadau y llynedd.

Heddiw, yn dathlu’r newyddion a dechrau mis Rhagfyr rhynllyd, mae aelodau eofn o blith cymuned y ‘Dawnstalkers’ yn nofio gyda’r wawr ger traeth Penarth.

Mae Dawnstalkers yn cynnwys mwy na 100 o aelodau, ac yn ôl Grant Zehtmayer, sef y sawl a sefydlodd y grŵp, mae nifer o bobl ar y cyrion ac yn camu i mewn ac allan ohono. Maen nhw’n cwrdd bob bore, cyn toriad y dydd a beth bynnag fo’r tywydd. Fel un o drigolion Penarth, dechreuodd Grant y grŵp ar ôl herio’i hun i dreulio amser yn y dŵr bob dydd wrth iddo gyflawni Ionawr Sych yn ystod y cyfyngiadau symud a theimlo ei fod eisiau ‘torri’n rhydd o’r caethiwed’.

Dywedodd Grant: “Waw! Alla i ddim credu bod Penarth wedi ennill statws ‘Rhagorol’ – mae hyn yn hollol anhygoel. Dw i’n gobeithio y bydd hyn yn esgor ar gyfleoedd ar gyfer glan môr hyfryd Penarth a’r dref yn gyffredinol, ac yn rhoi sicrwydd i bobl bod ein môr mwdlyd yn berffaith dda ar gyfer nofio ynddo.

Aeth ymlaen i ddweud: “Mae Dawnstalkers wedi newid fy mywyd. Mae gwybod y bydd rhywun sy’n fodlon mentro i’r môr oer gyda chi, bob dydd, yn wirioneddol arbennig. Mae aelodau ein cymuned ryfeddol yn hynod gefnogol i’w gilydd, ac mae hynny ynddo’i hun yn cael effaith bositif fawr ar ein hiechyd meddwl. Mae’r serotonin a’r dopamin sy’n cael eu cynhyrchu wrth nofio mewn dŵr oer yn rhoi hwb mawr i’ch hwyliau. Allwch chi feddwl am ddechreuad gwell i’ch diwrnod na chael ergyd hapusrwydd o’r fath?

“Gall gweithio gartref wneud ichi deimlo’n ynysig, a nawr bod y nosweithiau’n oerach ac yn dywyllach, rydyn ni am estyn croeso i unrhyw un sydd eisiau dod i ymuno â ni gyda’r wawr.”

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: “Llongyfarchiadau i draeth Penarth a thraeth Cwm Colhuw, ac i’r holl bobl sydd wedi gweithio’n galed i gyrraedd y safonau uchaf posibl ar gyfer ein dyfroedd ymdrochi yng Nghymru.

“Mae nofio mewn dŵr oer yn wych ar gyfer eich iechyd corfforol a meddyliol, ac os yw cymunedau a chyfeillgarwch yn cael eu creu yn sgil hynny, does gennyn ni ddim byd o gwbl i’w golli.

“Rydyn ni eisiau dynodi mwy o ddyfroedd yng Nghymru – er enghraifft llynnoedd a chronfeydd dŵr – yn ddyfroedd ymdrochi, ac annog pawb o bob siâp, maint a gallu i roi eu dillad nofio amdanynt a mentro i ddyfroedd ffraw Cymru. Byddwn ni’n parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol gan ein bod yn credu bod yr ymdrech yn werth ei gwneud. Gadewch inni sicrhau bod Cymru ar y brig o ran nofio gwyllt.”

Dywedodd Dr Kat Rayson, Seicolegydd Clinigol ac aelod o Dawnstalkers: “Pan symudais i i Benarth y llynedd, roeddwn i’n pryderu am wneud ffrindiau. Wrth ganfod Dawnstalkers, dw i wedi gallu ymuno â chymuned sydd wedi’i hen sefydlu, ac mae wedi fy ngwneud yn berson hapusach, ym mhob ffordd. Yn ogystal â’r ymateb corfforol therapiwtig dw i’n ei gael wrth neidio i’r dŵr oer, dw i bellach yn ymdrochi bob dydd fel mater o drefn ac mae’n rhan o reoli fy llesiant. Mae’r bobl mor gyfeillgar er gwaethaf yr amser hollol wirion a’r oerfel, ac rydyn ni’n gwybod o’r wyddoniaeth fod y cysylltiadau dyddiol bach hynny yn gwella’n hiechyd meddyliol. Yn ogystal â hynny, mae’r ergyd a’r sioc mae’r dŵr oer yn eu hachosi i’n system, sy’n ysgogi ein metaboledd a’n hymatebion cadarnhaol i straen. Pan dw i’n ymdrochi’n rheolaidd, dw i’n cael ymdeimlad o iwfforia. Dw i’n mynd o fod ychydig yn hapus i fod yn eithriadol o hapus. Pan nad wy’n ymdrochi, mae tristwch yn dychwelyd a dw i’n sylwi ar hynny’n fwy dwys.”

Dywedodd Jackie Rawlings, sy’n 76 oed ac yn aelod o Dawnstalkers: “Dw i wastad wedi byw bywyd prysur iawn. Mae gen i bedwar o blant, dw i wedi maethu llawer mwy, ac roeddwn i’n arfer rhedeg fferm weithredol gyda fy ngŵr a busnes llety gwyliau. Yn 2014, newidiodd hyn i gyd mewn eiliad. Bu fy ngŵr mewn damwain ddifrifol yn Ffrainc ac yna ces i ddiagnosis o ganser y fron – yn sydyn roedd bywyd yn hollol wahanol i sut fu pethau cyn hynny. Es i o fod yn hollol fywiog i fod yn hollol isel. Mae Dawnstalkers bellach yn fy nghefnogi’n fawr, o ran fy nghyflwr meddyliol ac yn gorfforol. Mae’r bywiogrwydd dw i’n ei brofi wrth nofio mewn dŵr oer yn amhosibl i’w ddisgrifio. Mae cael cefnogaeth gan bobl y gallwch siarad â nhw pan fo pethau’n anodd, gan wybod na fydd neb yn eich beirniadu, yn amhrisiadwy. Dw i mor falch fy mod i wedi dod o hyd iddyn nhw. Maen nhw wedi trawsnewid fy mywyd.”

Dywedodd Rachel Mulqueen, sy’n aelod o Dawnstalkers: “Roedd fy mam yn therapydd iechyd galwedigaethol. Roedd hi’n un o fy ffrindiau gorau a fy mhrif system gymorth. I bob golwg roedd ganddi bopeth – gyrfa, gŵr, teulu a ffrindiau, a chyflog digon da, ond fe laddodd ei hun pan ro’n i’n 23. Ces i hi’n anodd ymdopi gyda fy iechyd meddyliol am lawer o flynyddoedd ar ôl hynny, ac mae nofio mewn dŵr oer wedi fy helpu i fyw bywyd hapusach, a mwy positif. Mae’r dŵr oer yn fy helpu i deimlo’n gysylltiedig â natur, mae’n fy nghysuro ac yn gwneud imi deimlo’n dawel fy meddwl. Dw i’n credu bod hynny oherwydd pan dw i’n nofio yn y môr dw i’n llythrennol yn trochi mewn natur, ond hefyd oherwydd bod canolbwyntio ar fynd i’r dŵr pan mae’n rhewi yn helpu imi ganolbwyntio ar y presennol. Mae’n anodd meddwl am unrhyw beth arall heblaw rhoi un troed o flaen y llall. Mae Dawnstalkers wedi fy helpu i deimlo nad ydw i byth ar fy mhen fy hun. Mae fy moreau wedi bod yn llawn cariad a chwerthin ers imi ymuno â’r grŵp mwy na blwyddyn yn ôl.”

Cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru ymweliadau â phob un o’r 106 o safleoedd dŵr ymdrochi dynodedig drwy gydol tymor ymdrochi 2022 er mwyn casglu a dadansoddi samplau dŵr. Er bod 85 o blith y 106 o gyrff dŵr a aseswyd wedi cyflawni’r graddau uchaf, Marine Lake yn y Rhyl, sef llyn artiffisial a ddefnyddir ar gyfer chwaraeon dŵr yn bennaf, yw’r unig safle y dynodwyd gradd Gwael iddo.

Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae gan Gymru rai o'r traethau a’r dyfroedd ymdrochi gorau yn y DU. Maen nhw'n hynod o bwysig i ni – ac yn rhoi hwb i dwristiaeth ac i economïau lleol, gan wella iechyd a lles ein cymunedau a chefnogi bioamrywiaeth ac ecosystemau cyfoethog.

"Rydym yn hynod falch o'r gwelliannau a welsom yn ein dyfroedd ymdrochi yn ystod y degawdau diwethaf, ac o weld y rhan fwyaf o'n dyfroedd ymdrochi yn bodloni meini prawf rhagorol unwaith eto eleni.

"Ond gwyddom fod mwy i'w wneud. Mae newid hinsawdd, llygredd a'r ffordd rydyn ni'n byw ein bywydau, i gyd yn heriau sy'n wynebu ein dyfroedd. Rhaid i ni fabwysiadau dull Tîm Cymru o weithio os ydym am wireddu ein huchelgais o gael y dyfroedd rydym eisiau eu gweld ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol."