English icon English

Canlyniadau blwyddyn lawn cyntaf yr Arolwg Cenedlaethol ers y pandemig yn dangos ymdeimlad cryfach o gymuned yng Nghymru

First full-year National Survey results since the pandemic show increased sense of community in Wales

Mae gan bobl Cymru ymdeimlad cryfach o gymuned, ac yn teimlo mwy o foddhad gyda gwaith Llywodraeth Cymru, yn ôl y canlyniadau diweddaraf o’r Arolwg Cenedlaethol a gyhoeddwyd heddiw.

Arolwg sampl ar hap dros y ffôn yw’r Arolwg Cenedlaethol yn cynnwys 12,500 o bobl ar draws Cymru. Cynhaliwyd y cyfweliadau rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022, gan gwmpasu ystod eang o bynciau fel gwasanaethau cyhoeddus, iechyd a materion amgylcheddol.

Mae 64% o bobl yn dweud bod ganddynt ymdeimlad o gymuned yn eu hardal leol. Dyma gynnydd o gymharu â’r blynyddoedd cyn y pandemig (52% yn 2018-19). Mae cael ymdeimlad o gymuned yn golygu eu bod yn cytuno â’r tri datganiad canlynol: maent yn teimlo eu bod yn perthyn i’r ardal; mae pobl yn yr ardal o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda; mae pobl yn yr ardal yn trin ei gilydd â pharch.

Mae lefel y boddhad â’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith hefyd wedi cynyddu i 6.4 (allan o 10), o 5.4 yn 2018-19. Mewn arolwg cyfatebol yn 2018-19, roedd lefel boddhad ymatebwyr o’r DU gyda Llywodraeth y DU yn 3.8 allan o 10.

Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl oedd wedi bod at eu meddyg teulu yn ystod y flwyddyn. Cyn y pandemig, yn 2019-20, roedd 76% o bobl wedi cael apwyntiad meddyg teulu yn ystod y 12 mis blaenorol. Gwelwyd gostyngiad pellach i 58% yn 2021-22. Mae angen edrych ar hyn mewn mwy o fanylder, ond gellid ei esbonio’n rhannol gan bobl bellach yn dewis gweld, neu’n cael eu cyfeirio at weithwyr iechyd proffesiynol eraill yn hytrach na’u meddyg teulu.

Mae canlyniadau allweddol eraill yn cynnwys:

  • Mae 74% o bobl yn dweud eu bod yn fodlon bod gwasanaethau a chyfleusterau da ar gael yn eu hardal leol (i fyny o 69% yn 2018-19)
  • Mae cyfran y bobl a gafodd apwyntiad deintyddol yn y 6 mis diwethaf wedi cynyddu ers Ionawr-Mawrth 2021, o 21% i 32%, ond mae’n parhau’n is na’r 77% o bobl cyn y pandemig
  • Mae 54% o rieni sydd â phlentyn yn yr ysgol gynradd yn dweud bod ganddynt gyfrifiadur personol, gliniadur neu lechen (i fyny o 45% yn 2020-2021)
  • Dywedodd 36% o aelwydydd bod ganddynt gi ac mae gan 20% gath

Croesawodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, y canlyniadau, a dywedodd:

“Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn adnodd gwerthfawr gan ei fod yn rhoi trosolwg o sut mae pobl Cymru yn teimlo am nifer o agweddau ar eu bywydau.

"Mae’r canlyniadau eleni yn rhoi darlun manwl inni am safbwyntiau a phrofiadau pobl ledled Cymru wrth i gyfyngiadau pandemig COVID-19 godi. Bydd y sylwadau hyn yn llywio ein penderfyniadau a’n polisïau, ac yn ein helpu ni wrth i ni wneud Cymru yn wlad well i fyw ynddi.”