English icon English
Tree pic LW-2

Casglu’r coed cyntaf fel rhan o brosiect uchelgeisiol yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd

First trees collected in Wales as part of ambitious give-away to fight climate change

Mae’r bobl gyntaf yng Nghymru’n casglu’r coed sy’n rhan o brosiect uchelgeisiol Llywodraeth Cymru yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

Daw hynny ar ôl addewid y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters ym mis Rhagfyr y bydd pob aelwyd yng Nhymru yn cael cynnig coeden am ddim.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â Coed Cadw, y Woodland Trust yng Nghymru, i gynnal y prosiect.

Daeth y bobl gyntaf i gasglu’u coed heddiw (dydd Gwener, 25 Chwefror) yng Nghwmbrân a bydd y prosiect yn para gydol mis Mawrth mewn 5 canolfan ranbarthol fel rhan o beilot fydd yn rhoi 5,000 o goed i bobl lleol.

Yn yr hydref ac i gyd-fynd â’r tymor plannu coed nesaf, caiff y cynllun ei estyn i 25 o ganolfannau rhanbarthol ledled Cymru lle bydd 300,000 o goed ar gael i’w casglu.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters yn ystod ei ymweliad â Choed Blaen Brân yng Nghwmbrân lle roedd y coed cyntaf yn cael eu casglu:

“Mae’n wych cael bod yma heddiw i weld dechrau’r prosiect a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn yn ein hymrwymiad i gyrraedd sero net erbyn 2050.

“Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd a natur ac mae Cymru mewn sefyllfa arbennig o fregus oherwydd llifogydd ac erydu’r arfordir wrth i’n tywydd newid. I fod yn wlad sero net erbyn 2050 ac i gryfhau ein hamddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd, rhaid i ni blannu 86 miliwn o goed dros y degawd nesaf.

“Mae’n braf cael siarad â theuluoedd heddiw ac mae’n glir eisoes y bydd y prosiect hwn yn helpu pobl i ddeall a phrofi’r manteision lu a ddaw yn sgil plannu coed, nid yn unig o safbwynt yr amgylchedd ond hefyd o ran iechyd a lles.

“Hoffwn ddiolch i bawb yn Coed Cadw am gydweithio â ni i gynnal y prosiect hwn ac rwy’n disgwyl ymlaen at ei estyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.”

Bydd coed mis Mawrth yn cael eu rhannu yn y pum canolfan ranbarthol, yn Llanrwst, Wrecsam, Machynlleth, Abertawe a Chwmbrân.

Dylai pobl sy’n byw ar bwys y safleoedd hyn fynd i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru i gael manylion eu canolfan leol a’r trefniadau ar gyfer casglu coed.

Wrth gasglu’u coeden, bydd gwirfoddolwyr wrth law i roi cyngor ar sut i blannu’r goeden a gofalu amdani.

Dywedodd Natalie Buttriss, Cyfarwyddwr Coed Cadw “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y gall awydd droi’n arfer mewn fawr o dro.

“Rydyn ni’n gwybod o’n profiad o gynnal prosiectau plannu coed bod pobl yn ofalus iawn â’r coed maen nhw’n eu plannu a bod hynny’n gallu ysbrydoli’r teulu cyfan a’u rhwydwaith o ffrindiau.

“Mae’n braf hefyd cael cefnogaeth ein partner cymunedol, Llais y Goedwig, sydd wedi’n helpu i sefydlu’r canolfannau fydd yn allweddol i’r prosiect hwn.”

I ddysgu mwy am ran gynta’r prosiect ac i fod yn siŵr mai chi fydd y cyntaf i wybod am y casgliad nesaf, ewch i llyw.cymru//coedwig-genedlaethol