Cefnogaeth i oroeswyr trais rhywiol i ddechrau gwella
Support for sexual violence survivors to start healing
Bydd goroeswyr trais rhywiol ledled Cymru yn gallu cael mynediad at gwnsela arbenigol a chymorth emosiynol yn gyflymach, diolch i fuddsoddiad newydd o £2.4m gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd heddiw ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn (25 Tachwedd).
Bydd y buddsoddiad yn sicrhau y bydd y rhai sydd angen cwnsela arbenigol a chymorth emosiynol erbyn mis Mawrth nesaf wedi dechrau ar y daith o wella drwy eu sesiwn therapi gyntaf.
Bydd y cyllid yn mynd i Llwybrau Newydd, Cerrig Camu, Canolfan Gymorth Gogledd Cymru i Oroeswyr Treisio a Cham-drin Rhywiol a Cymorth i Fenywod - Cyfannol. Bydd y cymorth ychwanegol yn caniatáu i'r sefydliadau hyn gynnig mwy o apwyntiadau, recriwtio cwnselwyr arbenigol a darparu gofal amserol sy'n ystyriol o drawma i oroeswyr ledled Cymru.
Mae gwasanaethau therapiwtig yn sgil trais rhywiol yn rhan hanfodol o'r broses o helpu pobl i wella o effaith barhaol trais rhywiol, gan gynnwys gorbryder, iselder a straen ôl-drawmatig. Maent yn rhoi lle diogel a chefnogol i oroeswyr brosesu trawma, meithrin hyder a theimlo eu bod mewn rheolaeth dros eu bywydau. Mae'r gwasanaethau hyn hefyd yn lleihau ymdeimlad pobl o fod wedi'u hynysu, yn hyrwyddo iachâd ac yn annog goroeswyr i ddod ymlaen am gefnogaeth a chyfiawnder.
Bydd y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau y gall pob dioddefwr yng Nghymru gael y cymorth sydd ei angen arnynt, gyda gwasanaethau sydd wedi'u hariannu'n briodol, o ansawdd uchel, ac wedi'u teilwra ar gyfer amgylchiadau pob person.
Mae Jackie Stamp, Prif Swyddog Gweithredol Llwybrau Newydd, wedi croesawu'r cyllid. Dywedodd: "Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl o bob oed sy'n cael eu heffeithio gan drais rhywiol yng Nghymru. Mae llawer o'n cleientiaid wedi'u trawmateiddio gan eu profiadau, ac mae darparu mynediad at wasanaethau therapi arbenigol cyn gynted â phosibl yn hanfodol i gynorthwyo eu hadferiad. Bydd yr arian hwn yn galluogi gwasanaethau trais rhywiol arbenigol fel ein rhai ni i recriwtio a hyfforddi mwy o gynghorwyr i gwrdd â'r galw uchel presennol am ein gwasanaethau, a thrwy wneud hynny bydd yn newid bywydau llawer o bobl."
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: "Does dim lle i aflonyddu, cam-drin na thrais yn ein cymdeithas. Ddeng mlynedd ar ôl cyflwyno Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015, deddfwriaeth a oedd yn garreg filltir, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw neu'n ferch.
"Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod trais rhywiol yn realiti i ormod o fenywod, dynion a phlant yng Nghymru, a'i fod yn cael effaith bellgyrhaeddol. Rwyf am wneud popeth a allaf i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad i'r cymorth cywir cyn gynted â phosibl fel y gallant ddechrau ar eu taith i wella ar unwaith.
"Rydym yn falch o gael cydweithio â sefydliadau arbenigol ymroddedig, yr heddlu a gwasanaethau