English icon English

Chwarae digwyddiadau chwaraeon y tu ôl i ddrysau caeedig wrth i achosion omicron godi

Sporting events to be played behind closed doors as omicron cases rise

Bydd digwyddiadau chwaraeon yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig o Ddydd San Steffan ymlaen yng Nghymru i helpu i reoli lledaeniad yr amrywiolyn omicron newydd.

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y mesurau newydd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon dan do ac awyr agored wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos cynnydd sydyn pellach yn nifer yr achosion a gadarnhawyd o’r amrywiolyn sy’n symud yn gyflym.

Cadarnhaodd hefyd y bydd Cronfa Chwaraeon Gwylwyr gwerth £3m ar gael i gefnogi clybiau a lleoliadau chwaraeon y mae'r mesurau newydd yn effeithio arnynt i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Bydd mwy o fanylion am y gronfa ar gael yn dilyn trafodaethau gyda'r sector.

Dywedodd Gweinidog yr Economi:

“Mae digwyddiadau chwaraeon dros gyfnod y Nadolig yn un o uchafbwyntiau mawr y flwyddyn. Yn anffodus, mae'r amrywiolyn omicron newydd yn ddatblygiad sylweddol yn y pandemig a gallai achosi nifer fawr o heintiau.

“Mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws ofnadwy yma.

“Drwy gydol y pandemig rydym wedi dilyn cyngor gwyddonol ac iechyd y cyhoedd i gadw pobl yn ddiogel. Mae'r cyngor yn glir - mae angen i ni weithredu nawr fel ymateb i fygythiad omicron. Rydym yn rhoi cymaint o rybudd i bobl am y penderfyniadau hyn ag y gallwn ni.

“Bydd torfeydd yn dod yn ôl cyn gynted â phosib. Rydyn ni eisiau i bawb fod yma i fwynhau eu hoff chwaraeon.”

Daw’r penderfyniad gan fod rhai clybiau pêl-droed eisoes wedi cyhoeddi bod gemau Nadolig wedi’u gohirio oherwydd achosion o Covid-19 yn eu sgwadiau.

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi gohirio ei gêm ar Ddydd San Steffan yn erbyn Dinas Coventry oherwydd sawl achos o Covid-19 yn ei garfan chwarae ac ymhlith ei staff. Ac ni fydd y clwb ar frig yr Ail Gynghrair, Forest Green, yn chwarae yn erbyn Casnewydd chwaith.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod achosion omicron yn codi'n gyflym ym mhob rhan o Gymru.

Mae cyfradd gyffredinol heintiau’r coronafeirws yn codi yng Nghymru hefyd ac erbyn hyn mae ychydig o dan 550 o achosion am bob 100,000 o bobl.

Rhybuddiodd y Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf am storm yn ymgynnull o heintiau omicron ar ôl cyfnod y Nadolig wrth i rai mesurau cadarnach gael eu cyflwyno o 27 Rhagfyr ymlaen i ddiogelu bywydau a bywoliaethau.

Bydd rheoliadau’r coronafeirws, gan gynnwys chwarae chwaraeon y tu ôl i ddrysau caeedig, yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.

Nodiadau i olygyddion

Nodyn i Olygyddion

Mae digwyddiad chwaraeon yn cyfeirio at bob digwyddiad chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored gyda gwylwyr, os oes tocynnau’n cael eu gwerthu ai peidio. Mae'n cynnwys digwyddiadau chwaraeon mwy a'r rheini ar bob lefel o'r gêm, gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon cymunedol, sy'n denu torfeydd cryn dipyn yn llai.

Oherwydd y sefyllfa sy'n esblygu'n gyflym, mae'r Cabinet yn monitro sefyllfa iechyd y cyhoedd yn ofalus i ystyried a oes angen unrhyw fesurau diogelwch pellach wrth i nifer yr achosion o omicron yng Nghymru gynyddu'n gyflym iawn.