English icon English
Cwricwlwm - ysgol - addysg

Chwe ffaith am y Cwricwlwm newydd i Gymru

Six things you may not know about the new Curriculum for Wales

Daeth y Cwricwlwm newydd i Gymru gam yn nes heddiw wrth i ddeddfwriaeth gael ei chreu sydd yn nodi pa ysgolion uwchradd a lleoliadau fydd yn dechrau addysgu eu cwricwlwm newydd o fis Medi ymlaen.

Rhoddwyd dewis i ysgolion a lleoliadau addysg eraill yng Nghymru ddechrau addysgu eu cwricwlwm newydd i ddysgwyr Blwyddyn 7 o fis Medi ymlaen. Er mwyn gwneud iawn am yr amharu a fu oherwydd y coronafeirws, rhoddwyd dewis amgen hefyd i ysgolion ddechrau addysgu Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8 ar yr un pryd, o fis Medi 2023.

Mae rhestr lawn o’r ysgolion uwchradd a’r lleoliadau a fydd yn dechrau addysgu’r cwricwlwm newydd y mis Medi hwn wedi ei chyhoeddi mewn is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Bydd pob ysgol gynradd ac oddeutu 500 o leoliadau gofal plant yn dechrau defnyddio’r cwricwlwm newydd o fis Medi ymlaen hefyd.

Chwe ffaith am y Cwricwlwm newydd i Gymru:

  1. Mae llawer o ysgolion eisoes wedi dechrau gweithio’n wahanol

Mewn nifer o ysgolion, mae’r newid eisoes ar droed. Yn 2017, dechreuodd ysgolion, athrawon ac arbenigwyr eraill weithio gyda’i gilydd i greu’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Achosodd y pandemig newidiadau cyflym mewn llawer o ysgolion. Roedd modd iddynt ganolbwyntio ar les a chynnydd dysgwyr ac mae athrawon wedi eu rhyddhau oddi wrth lwyth gwaith dianghenraid.

  1. Mae’r cwricwlwm wedi ei gynllunio o amgylch pedwar diben i ddysgwyr

Bydd y Pedwar Diben yn dod yn derm cyfarwydd i rieni, gofalwyr a phlant. Am y tro cyntaf, rydym wedi diffinio yn y gyfraith beth ddylai diben addysg yng Nghymru fod.

Nod cwricwlwm ysgol yw cefnogi ei dysgwyr i ddod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  1. Bydd mwy o hyblygrwydd gan athrawon

Bydd fframwaith cenedlaethol i sicrhau cysondeb a chraidd dysgu, ond bydd athrawon ac addysgwyr eraill yn cael eu grymuso i ddefnyddio eu sgiliau a’u dealltwriaeth broffesiynol i benderfynu beth i’w addysgu a sut i wneud hynny er mwyn cael y gorau gan eu dysgwyr.

  1. Bydd pynciau cyfarwydd yn parhau i gael eu haddysgu, ond yn cael eu cyflawni fel rhan o feysydd ehangach o ddysgu

Mae chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru.

  • Celfyddydau Mynegiannol
  • Iechyd a Lles
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Bydd pynciau penodol yn dal i gael eu haddysgu, ond gall ysgolion benderfynu archwilio’r cysylltiadau rhyngddynt, er mwyn i ddysgwyr ddeall y cyd-gysylltedd ac ehangder eu dysgu. Gellir dysgu pwnc fel newid hinsawdd drwy ddaearyddiaeth, hanes, gwyddoniaeth a’r effaith ar gymdeithas.

  1. Bydd dysgu hanes pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael ei gynnwys yn y cwricwlwm newydd

Bydd dysgu am hanes Cymru ac am hanes ac amrywiaeth cymunedau, yn enwedig hanesion pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, yn rhannau gorfodol o’r cwricwlwm newydd.

Mae pob un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad y cwricwlwm yn cynnwys ‘Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig’, a ddisgrifir fel y ‘syniadau mawr’ a’r egwyddorion allweddol ym mhob Maes. Mae’r datganiadau’n cynnwys disgwyliad y gall dysgwyr “ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, luosog ac amrywiol cymdeithasau, o’r gorffennol a’r presennol. Mae'r straeon hyn yn amrywiol, yn rhychwantu gwahanol gymunedau ac, yn arbennig, straeon pobl dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol.”

Mae’r Athro Charlotte Williams OBE wedi bod yn arwain ar waith i wella addysgu am gymunedau pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, gan gynnwys datblygu deunyddiau addysgu a hyfforddi newydd i athrawon ac athrawon dan hyfforddiant, i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd.

  1. Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn orfodol ym mhob ysgol o fis Medi 2022, yn ogystal â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Bydd pob plentyn yn cael Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fydd yn briodol yn ddatblygiadol o dan y cwricwlwm newydd. Bydd hyn yn cynnwys dysgu am gydberthnasau iach, cadw’n ddiogel gan gynnwys ar-lein, a bod yn hyderus i sôn wrth oedolion cyfrifol am unrhyw broblemau.

Mae grwpiau ffydd a grwpiau eraill sydd yn cynrychioli buddiannau plant, fel yr NSPCC a Chomisiynydd Plant Cymru, wedi cynorthwyo gweithwyr proffesiynol ym maes addysg i ddatblygu’r cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.