Cinio Nadolig am ddim am y tro cyntaf i bob plentyn yn ysgolion cynradd Cymru
First free Christmas dinner for every child at Welsh primary schools
Mae ysgolion ar hyd a lled Cymru yn cynnal eu dathliadau diwedd tymor yr wythnos hon, ac am y tro cyntaf mae gan bob plentyn ysgol gynradd yr hawl i gael pryd Nadolig am ddim.
Ysgol Gynradd y Rhws yw un o'r ysgolion sy'n mwynhau cinio Nadolig am ddim diolch i'r rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd.
Ers cwblhau'r rhaglen ym mis Medi, mae dros 35 miliwn o brydau wedi'u gweini, gydag ychydig llai na 175,000 o ddysgwyr mewn ysgolion cynradd a gynhelir wedi dod yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim yn y cyfnod hwnnw.
Mae prydau ysgol am ddim yn helpu i wella cyrhaeddiad ac ymddygiad dysgwyr, yn ogystal â hyrwyddo bwyta'n iach a gwella sgiliau cymdeithasol yn ystod prydau bwyd.
Mae ysgolion hefyd wedi elwa ar gyllid i wella cyfleusterau ceginau ysgol, gydag Ysgol Gynradd y Rhws yn cwblhau'r gwaith o uwchraddio eu cegin a'u hardal fwyta yn ddiweddar.
Dywedodd Carole Tyley, Rheolwr Gyfarwyddwr darparwr gwasanaeth arlwyo Bro Morgannwg, The Big Fresh Catering Company: "Mae staff ysgol, disgyblion a staff arlwyo Ysgol Gynradd y Rhws yn ddiolchgar iawn am eu cegin a'u neuadd fwyta newydd, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd.
"Mae gan y gegin gyfarpar newydd modern sy'n helpu i ddarparu prydau iach a maethlon. Mae'r neuadd fwyta yn fan newydd, lliwgar a deniadol, sy'n ddelfrydol i ddisgyblion gymdeithasu wrth rannu cinio gyda'i gilydd."
Wrth ymweld ag Ysgol Gynradd y Rhws, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae wedi bod yn wych gweld y dysgwyr yma yn Ysgol Gynradd y Rhws yn mwynhau eu cinio Nadolig. Rwy'n hynod o falch mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig pryd ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd.
"Rwy' am ddiolch i'n hawdurdodau lleol a'n hysgolion am helpu i wireddu hyn. Rydyn ni'n helpu i daclo tlodi plant a gwella lles ein dysgwyr, ac mae hyn eisoes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd ledled Cymru."