English icon English
back-pain-g3a12980af 1920

Cleifion yn cael hwb gan ddatblygiadau mewn iechyd cyhyrysgerbydol

Patients boosted by innovations in musculoskeletal health

Mae dulliau newydd a gwell o reoli cyflyrau Cyhyrysgerbydol megis osteoporosis ac arthritis o fudd i bobl ledled Cymru. 

Ymysg y ffyrdd y mae byrddau iechyd yn darparu cymorth yw hyfforddwyr lles, cynlluniau talebau, hyfforddiant mewn grŵp ac aelodaeth campfa am brisiau gostyngol.

Nod y trawsnewid ar draws gwasanaethau yw gwella canlyniadau cleifion, rhoi cymorth gwell i’r rhai sydd ar restrau aros i reoli eu cyflwr, a gweithio tuag at fynediad cyfartal at ofal ledled Cymru.

Gall cyflyrau Cyhyrysgerbydol achosi poen hirdymor yn yr esgyrn a’r cymalau ac maent yn cynnwys osteoarthritis, arthritis gwynegol, poen cefn ac osteoporosis. Ar hyn o bryd mae 18% o bobl yng Nghymru yn dioddef o Osteoporosis ac mae 974,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o gyflwr Cyhyrysgerbydol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar amrywiaeth o ddatblygiadau, sy’n ategu’r rhaglen ‘Cymru Iachach’, gan gynnwys mynediad cynharach at wasanaethau, rhagsefydlu, offer digidol i gleifion a chysylltiadau â grwpiau hamdden cymunedol.

Bydd y datblygiadau hyn yn gweithio gyda phobl i wella iechyd Cyhyrysgerbydol ac i arafu datblygiad cyflyrau presennol. Yn ogystal, bydd pobl ar restrau aros yn cael eu cefnogi i aros yn iach ac i fod yn barod yn emosiynol ac yn gorfforol ar gyfer llawdriniaeth.

Yfory [dydd Iau 20 Hydref], bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Gofal, Eluned Morgan yn cyhoeddi lansiad Grŵp Datblygu a Sicrhau Ansawdd Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn. Bydd y tasglu hwn yn canolbwyntio ar greu mynediad cyson at wasanaethau sydd â’r nod o atal toresgyrn eilaidd ledled Cymru a helpu byrddau iechyd i ddatblygu a darparu ffyrdd newydd o weithio i gefnogi pobl.

Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn trawsnewid gwasanaethau ac mae’r Gwasanaeth Gwella Lles, a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn un enghraifft o hyn. Cynigir hyfforddwyr lles i gleifion i helpu i gefnogi newidiadau o ran ffordd o fyw ac ymddygiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth i wella eu hiechyd corfforol a meddyliol, i leihau symptomau ac i ddeall gwraidd eu her iechyd. Gall hyn gynnwys hyfforddiant mewn grŵp mewn lleoliadau cymunedol neu yn rhithiol a grwpiau rhagnodi cymdeithasol yn ogystal â thalebau i’w gwario mewn busnesau lleol drwy GetFitWales.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gweithio i ddarparu gofal iechyd mewn cymunedau lleol, drwy gydweithio â chanolfannau hamdden i gefnogi pobl ag arthritis i fyw’n iach drwy gynnig aelodaeth campfa am bris gostyngol. Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio gyda Nofio Cymru, i ddatblygu rhaglenni gweithgareddau dŵr. Bydd y rhaglenni yn cefnogi pobl sydd ar restrau aros orthopedig i ddianc rhag poen a’u paratoi ar gyfer llawdriniaeth drwy ymarferion hunan-dywys drwy ap.

Mae datblygiadau fel hyn yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl sy’n byw â chyflyrau Cyhyrysgerbydol. Mae canlyniadau rhaglenni rhagsefydlu ar gyfer pobl sy’n aros am lawdriniaeth gosod pen-glin neu glun newydd ym myrddau iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bae Abertawe wedi dangos gwelliannau sylweddol ym mhob mesur canlyniad ar gyfer cyfranogwyr o ran poen, gyda mesurau swyddogaeth ac ansawdd bywyd yn gwella 17%-69%.

Mae atal a thrawsnewid yn ddau ysgogiad allweddol yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad gofal a gynlluniwyd i helpu i leihau rhestrau aros ac i ddarparu gwasanaethau mwy cynaliadwy yn y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Mae’n wych gweld bod ystod eang o ofal ar gael i’r rhai sy’n dioddef o gyflyrau Cyhyrysgerbydol. Gwyddom y gall poen corfforol cyflyrau Cyhyrysgerbydol gael effaith niweidiol ar iechyd meddwl a llesiant, bydd y gwasanaethau hyn yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl sy’n byw ac yn rheoli’r cyflyrau hyn ac i’w teuluoedd.

“Mae modd dylanwadu ar iechyd Cyhyrysgerbydol a gallwn ei wella drwy drawsnewid gwasanaethau a chanolbwyntio ar atal yn ogystal â gwella cynaliadwyedd yn y system. Nid yw creu newid systemaidd byth yn dasg hawdd ond drwy drawsnewid y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig nawr wrth leihau rhestrau aros, mae’n hanfodol os ydym am stopio’r rhestrau aros rhag tyfu yn y dyfodol ac i helpu pobl i fyw’n iachach.”

DIWEDD 

Nodiadau i olygyddion

Notes

Musculoskeletal conditions include conditions that affect joints, bones and muscles and includes osteoporosis and associated fragility and traumatic fractures. They are a common cause of severe long term pain and physical disability.