Deputy Minister for Transport Mark Hooper at the TrydaNi car sharing scheme in Aberystwyth 2-2

Clybiau rhannu ceir di-allyriadau yn ehangu ledled Cymru

Zero-emission car sharing clubs expand across Wales

  • Ar hyn o bryd mae cynllun rhannu ceir TrydaNi yn gweithredu 13 clwb ceir ledled Cymru, gyda mwy na 500 o aelodau
  • Mae'r cynllun yn cael ei gefnogi gan £1 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru
  • Lansiwyd clwb ceir Aberystwyth ym mis Rhagfyr 2024 ac mae ganddo 99 o aelodau

Mae TrydaNi yn caniatáu i yrwyr   ledled Cymru ddefnyddio ceir trydan mewn ffordd sy'n fforddiadwy, yn gyfleus ac yn fuddiol i gymunedau lleol.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru gwerth £1 miliwn, mae'r cynllun ar gael i unigolion, busnesau a sefydliadau nid-er-elw, ac mae wedi tyfu i fwy na 500 o aelodau, gyda'r niferoedd yn cynyddu wrth i glybiau newydd agor.

Eleni mae TrydaNi wedi lansio clybiau yn Abertawe, Penygroes a'r Fenni, a bydd yn lansio clwb ym Mangor cyn bo hir hefyd. 

Ers ei lansio ym mis Rhagfyr 2024, mae clwb Aberystwyth wedi tyfu i 99 o aelodau, sy'n rhannu mynediad at ddau gerbyd trydan, Vauxhall Combo Life Electric a Renault Zoe, sydd wedi'u lleoli ym maes parcio Ffordd y Gogledd yn Aberystwyth.

Dywedodd Simon LePine, aelod o glwb Aberystwyth:

"Dyw fy ngwraig a minnau ddim wedi bod yn berchen ar gar ers o leiaf 15 mlynedd, felly y car yw ein hunig gyfle i ddefnyddio cerbyd. Mae'n caniatáu inni ddefnyddio car pan fydd angen un arnon ni heb boeni am barcio, yswiriant a'r holl bethau eraill hynny pan nad oes angen y car."

Mae'r cynllun yn arbennig o ddefnyddiol i bobl mewn ardaloedd gwledig, lle y gall darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus fod yn gyfyngedig a gall defnyddio car fod yn fwy hanfodol nag i'r rhai sy'n byw mewn trefi a dinasoedd.

Ymwelodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper, â chlwb ceir TrydaNi Aberystwyth i weld drosto'i hun sut mae cyllid Llywodraeth Cymru yn helpu cymunedau i gael mynediad at drafnidiaeth fforddiadwy, di-allyriadau.

Dywedodd:

"Mae clybiau ceir yn ffordd hawdd a fforddiadwy i bobl rannu car heb y costau sydd ynghlwm wrth fod yn berchen ar un.  Rwyf mor falch o weld bod y cynllun yn ehangu.

"Mae'n un o'r ffyrdd y gallwn ni helpu i leihau allyriadau carbon a symud tuag at ddyfodol sero net.  Mae pobl nid yn unig â'r opsiwn o roi'r gorau i'w car eu hunain neu ail gar, ond gallan nhw hefyd elwa ar ddefnyddio car trydan heb ymrwymiad hirdymor."

Gellir llogi ceir fesul awr neu fesul diwrnod. Gall aelodau archebu a datgloi cerbydau drwy ap TrydaNi, gyda chostau i ddechrau o £2 yr awr (wedi'i gapio ar £30) ynghyd â 16c y filltir am y 100 milltir gyntaf.

Mae gan bob clwb hefyd grŵp WhatsApp dewisol ar gyfer aelodau, ac mae tîm cymorth pwrpasol ar gael dros y ffôn rhwng 8am a 10pm, saith diwrnod yr wythnos.

Gall aelodau ddod yn Hyrwyddwyr Cymunedol sy'n caniatáu iddyn nhw ennill credydau drwy helpu i lanhau a chynnal a chadw'r cerbydau.