Clywed lleisiau pobl ifanc
Young people to have their voices heard
Ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant [20 Tachwedd], bydd pobl ifanc o bob cwr o Gymru yn cwrdd â Gweinidogion o bob rhan o Lywodraeth Cymru i godi eu llais.
Mae cynhadledd flynyddol Cymru Ifanc yn gyfle i bobl ifanc siarad yn uniongyrchol â Gweinidogion am faterion sy’n bwysig iddyn nhw.
Fe gafodd y digwyddiad ei gynllunio a’i drefnu gan aelodau o Fwrdd Prosiect Cymru Ifanc, a bydd yna drafodaethau a gweithdai ar amrywiol bynciau, gan gynnwys: newid hinsawdd, iechyd meddwl a lles, a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd 15-20 o bobl ifanc o gefndiroedd a phrofiadau o bob math, o bob rhan o Gymru, yn ymuno â phob sesiwn.
Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn 2004. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn i hyrwyddo hawliau plant, addawodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ystyried safbwyntiau pobl ifanc wrth lunio polisi a gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
Ymhlith y Gweinidogion a fydd yn bresennol mae:
- Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford
- Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan
- Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James
- Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle
- Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt
Dywedodd Julie Morgan:
“Rydyn ni wedi rhoi’r lle canolog i blant a phobl ifanc yn barhaus wrth lunio polisi ac wedi arwain y ffordd ar Hawliau Plant. Mae cynadleddau fel hon heddiw yn arddangos ein hymrwymiad clir i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed yng nghanol y llywodraeth. Drwy glywed droson ni ein hunain y pryderon a’r materion sy’n effeithio ar blant, fe allwn ni wneud gwell penderfyniadau a fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol.
“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda phobl ifanc ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw, a gweithio ar draws y llywodraeth i ymgorffori’r safbwyntiau hyn mewn polisi.”
Dywedodd Mark Drakeford:
“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwrando ar safbwyntiau plant a phobl ifanc. Dyna pam dw i’n edrych ymlaen cymaint at y sesiynau trafod hyn.
“Mae rôl gref gan bobl ifanc Cymru o ran llywio ein polisïau a’n syniadau wrth inni weithio i greu Cymru decach, werddach, fwy llwyddiannus fyth.”
Dywedodd Nirusgab Sudarsan a fydd yn ymuno â’r gynhadledd:
“Mae cynhadledd Cymru Ifanc yn caniatáu i bobl ifanc o bob math siarad â Gweinidogion am sut i ddatrys rhai o’r materion mwyaf. Mae Newid Hinsawdd; Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant; ac Iechyd Meddwl a Lles yn flaenoriaethau i bobl ifanc, ac mae gyda ni’r syniadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth positif i’n bywydau.”
Dywedodd Sienna Pincott a fydd hefyd yno:
“Mae’n gynhadledd gyffrous. Dw i a phobl ifanc eraill yn edrych ymlaen ati, a dw i’n edrych ymlaen yn arbennig at siarad â Gweinidogion ar ddiwrnod plant y byd. Dw i eisiau gwybod beth sy’n cael ei wneud ynghylch cynhesu byd-eang, a beth mae Gweinidogion yn ei wneud am y peth. Fe ddylai mwy o bobl ifanc wybod am newid hinsawdd a chwarae rôl yn y broses o wneud penderfyniadau.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Notes
The Young Wales Project Board is part of the Children in Wales.
Additional quotes from young people attending the conference.
Ellie Morgan said: “The three themes of the conference are very important for so many young people and the conference lets us have a say on the issues that affect us. We don’t know enough about children’s rights and we should know more and how it applies to us. For people who think that children won’t make a difference - you are wrong. You might try to take away our voices, but you won’t take away our future.”
Joshua Hollett said: “Every child has the right to access information and they should know about children’s rights. We should be given more time and opportunities to discuss with people in power about how we can change some of the issue in the themes together and the conference allows us to do this.”
Please contact Vicky Ferris for interviews / filming opportunities.