English icon English
Rebecca Evans#2

Codi’r taliad cymorth hunanynysu i £750

Self-isolation support payment increased to £750

Yn dilyn newidiadau i'r polisi hunanynysu, bydd taliad cymorth hunanynysu Llywodraeth Cymru yn cael ei godi o £500 i £750.

Bydd y cynnydd yn dod i rym ar 7 Awst a chaiff ei adolygu gan y Gweinidogion ymhen tri mis. Mae'r taliad wedi'i gynllunio i oresgyn rhai o'r rhwystrau ariannol sy'n wynebu pobl sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan wasanaeth Profi Olrhain Diogelu (TTP) GIG Cymru am eu bod wedi cael prawf positif, am fod ganddynt symptomau coronafeirws neu am eu bod yn gysylltiadau agos sydd heb eu brechu'n llawn.

Mae'r cynllun taliadau, sydd wedi'i ymestyn tan fis Mawrth 2022, yn helpu i gefnogi pobl na allant weithio gartref yn ogystal â rhieni a gofalwyr â phlant, sydd wedi profi'n bositif ac sy'n hunanynysu.

Mae'r elfen yn ôl disgresiwn yn cefnogi pobl nad ydynt ar fudd-daliadau ond sy'n bodloni'r meini prawf eraill ac sydd mewn perygl o galedi ariannol.  Ers ei lansio mae'r elfen yn ôl disgresiwn wedi’i hesblygu i gynnwys y rhai sy'n ennill hyd at £500 yr wythnos.  Y bwriad wrth gynyddu’r swm yw digolledu unrhyw un sy'n ennill hyd at y trothwy incwm personol ac yn collli cyflog dros y cyfnod hunanynysu o ddeg diwrnod.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans:

"Mae mwy na 14,518 o daliadau cymorth wedi'u gwneud ers mis Tachwedd 2020 ac rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi'r rhai sydd ei angen wrth inni ddod allan o'r pandemig. Mae'r taliadau hyn yn hanfodol a bydd y cynnydd i £750 yn rhoi sicrwydd pellach i unrhyw un y mae’r gwasanaeth TTP wedi dweud wrthynt am hunanynysu, ond a allai brofi caledi ariannol yn sgil gorfod aros gartref."

"Mae’r awdurdodau lleol wedi ymateb i'r her o sicrhau bod y taliadau’n cael eu gwneud yn gyflym i’r bobl sydd eu hangen. Mae’r awdurdodau lleol wedi cael cyngor pellach ar sut y gallant ddarparu cymorth ymarferol a chefnogaeth i ymgeiswyr wrth iddynt wneud cais am y taliad.”

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Mae mor bwysig bod pobl yn hunanynysu os ydyn nhw'n profi'n bositif am COVID-19 neu os ydyn nhw’n gysylltiad agos sydd heb ei frechu'n llawn, er mwyn atal y feirws rhag lledaenu a diogelu teulu a ffrindiau.

"Mae ein gwasanaeth TTP yn hynod effeithiol o ran cefnogi pobl a rhoi cyngor i'r rhai sydd wedi profi'n bositif am y feirws. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi i roi cymorth i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

"Brechlynnau yw’r ffordd orau inni allu dod o’r pandemig. Mae gennym raglen frechu sydd ymysg y gorau yn y byd, ac rwy'n annog unrhyw un sydd heb gael ei frechu i fanteisio ar y cynnig.”

DIWEDD