English icon English

Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) mewn sefydliadau addysg yng Nghymru

Reinforced Autoclaved Aerated Concrete (RAAC) in education establishments in Wales

Wedi i wybodaeth newydd ddod i law dros y penwythnos, mae pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn asesu’r sefyllfa o ran RAAC mewn adeiladau addysg.

Nodwyd bod RAAC mewn dwy ysgol ar Ynys Môn, sef Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi. Nid oes unrhyw risgiau neu bryderon uniongyrchol.

Bydd y ddwy ysgol nawr yn cau dros dro fel y gellir cynnal archwiliadau diogelwch pellach a chynllunio trefniadau amgen.

Rydym wrthi’n gwneud gwaith pellach i asesu’r union sefyllfa ledled Cymru, ac mae adolygiad o’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gan awdurdodau lleol ar y gweill. Rydym yn disgwyl i ganlyniadau hwnnw ddod i law o fewn y pythefnos nesaf.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch disgyblion a staff. Ers i ni ddod yn ymwybodol o'r datblygiadau hyn, rydym wedi bod yn gweithio ar frys gydag Awdurdodau Lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau y gall disgyblion a staff fynd yn ôl i'r ysgol yn ddiogel.

"Cafodd peth o'r dystiolaeth newydd ynghylch y defnydd o RAAC ei ddarparu i Lywodraeth Cymru neithiwr. Rhannwyd yr wybodaeth ar unwaith gyda Chyngor Sir Ynys Môn i'w cefnogi wrth wneud penderfyniadau.

"Rydym yn gwneud y penderfyniadau hyn gyda'n gilydd i gadw staff a disgyblion yn ddiogel. Mae Cyngor Ynys Môn a'r ysgolion yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau'r effaith ar ddisgyblion. Os bydd unrhyw un o'r camau hyn yn effeithio arnoch, byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan eich ysgol."

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd Addysg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

“Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ac mewn deialog reolaidd ar y mater hwn. Diogelwch athrawon, staff a disgyblion yw ein prif flaenoriaeth wrth i ni geisio cadarnhau'r sefyllfa lawn ledled Cymru.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi:

“Mae hon yn sefyllfa sy’n newid yn barhaus ac yn fater cenedlaethol. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn siomedig i'r holl staff a disgyblion. Fodd bynnag, eu diogelwch nhw yw ein prif flaenoriaeth. Rydym wrthi’n rhoi cynlluniau yn eu lle ar gyfer ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi er mwyn lleihau’r aflonyddwch i addysg y plant.”

“Rydym yn cydweithio’n agos â Phenaethiaid a staff yn yr ysgolion sydd wedi eu heffeithio. Bydd yr ysgolion yn darparu diweddariadau pellach i rieni/gwarcheidwaid pobl ifanc. Eto, ein prif flaenoriaeth yw sicrhau diogelwch ein holl staff a’n pobl ifanc.”