English icon English

COP27: Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James yn dweud wrth arweinwyr y byd “does amser i orffwys”, wrth i Gynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd ddechrau yn yr Aifft.

COP27: Minister for Climate Change Julie James will tell world leaders there is “no time to rest” as the UN Conference on Climate Change begins in Egypt.

Flwyddyn ar ôl COP26 yn Glasgow a blwyddyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynllun Sero Net, mae Cymru bellach wedi cyflwyno amrywiaeth o bolisïau ar yr hinsawdd, fel y cynllun ar gyfer datblygwr ynni adnewyddadwy gwladol fydd yn sicrhau cyflenwadau ynni yn y tymor hir ac yn ailfuddsoddi elw er lles pobl Cymru.

Wrth annerch cynhadledd gan Lywodraeth Cymru i’r wasg, bydd y Gweinidog yn dweud y gall ymateb i’r argyfwng newid hinsawdd ddod â llawer o fanteision, gan gynnwys cymunedau iachach a chyfleoedd gwaith newydd.

Disgwylir i’r Gweinidog longyfarch Cymdeithas Bêl-droed Cymru am ei strategaeth gynaliadwyedd sy’n cael ei lansio fory (7 Tachwedd), hynny wrth iddi alw arnom i weithio fel Tîm Cymru i daclo’r newid yn yr hinsawdd.